Shop RNIB Cyfrannwch nawr

Mae RNIB Cymru yn ysgrifennu at Brif Weithredwr Cyngor Caerdydd i alw am ailgynllunio arosfannau bysiau newydd peryglus

Annwyl Mr. Orders,

Llwybrau Beicio Traws-ddinas Caerdydd a Mynediad i Arosfannau Bysiau

Rydym yn ysgrifennu, i adrodd yn ffurfiol ar ein pryderon ynghylch newidiadau parhaus i ganol y ddinas sy'n effeithio'n negyddol ar bobl ddall ac â golwg rhannol. Yn benodol, anhygyrchedd y cynlluniau arosfannau bysiau sy'n rhan o brosiect Beicffyrdd Traws-ddinas Caerdydd. Rydym yn hynod siomedig gyda methiant y Cyngor tan yn ddiweddar i ystyried anghenion pobl ddall ac â golwg rhannol a cherddwyr anabl eraill wrth symud drwy’r ddinas. Y mis diwethaf dywedwyd wrthym y byddai Cyngor Caerdydd yn ceisio cyllid i gael gwared ar y mannau byrddio bysiau. Mae hwn yn gam pwysig ymlaen, ac rydym yn nodi yn y llythyr hwn pam ei bod yn hanfodol bod yr ymrwymiad hwn yn cael ei weithredu fel mater o frys.

Roedd pryderon am y cynlluniau hyn, a materion yn codi o gyflwyno gosodiadau strydoedd newydd mewn ymateb i'r pandemig, wedi'u codi ym mis Mehefin 2020. Arweiniodd hyn at ailymgynnull y Grŵp Cydraddoldeb a Hygyrchedd y cyngor. Fodd bynnag, er gwaethaf hyn, parhaodd Swyddogion y Cyngor i ddiystyru argymhellion y Grŵp ynglŷn â nifer o gynlluniau newydd gan olygu bod angen llythyr pellach at y Cyng. Thomas.

Ym mis Chwefror 2022, ysgrifennodd RNIB Cymru a Guide Dogs Cymru at Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cyng. Huw Thomas, yn amlinellu ein pryderon ynghylch addasiadau i’r parth cyhoeddus yng nghanol y ddinas (mae copi o’r llythyr hwn wedi’i gynnwys). Roedd y rhain yn cynnwys gosod nifer o gynlluniau ar gyfer mannau byrddio bysiau yn eu lle.

Mae’r dyluniadau rydym yn cyfeirio atynt wedi’u lleoli yn Dumfries Place, Heol Casnewydd, Ffordd y Brenin a Stryd y Castell. Nid oes gan yr un ohonynt y nodweddion diogelwch sylfaenol sydd eu hangen i gadw pobl ddall ac â golwg rhannol yn ddiogel. Er mwyn dal bws, disgwylir i berson dall neu â golwg rhannol groesi lôn feicio. Mae gan rai arosfannau farciau “croesfan sebra” ond nid oes ganddynt farciau cyffyrddol sy'n galluogi pobl ddall ac â golwg rhannol i ganfod presenoldeb man croesi. Nid oes unrhyw ffin cyrb rhwng y palmant a'r lôn feicio a fyddai'n galluogi person dall i ddeall ei fod yn camu i'r lôn feicio. Yn wahanol i ddyluniadau eraill yn y ddinas, nid oes gan y rhain unrhyw fannau croesi a reolir gan signalau i roi hyder i gerddwyr dall neu â golwg rhannol y byddai beicwyr sy'n dod tuag atynt yn dod i stop dibynadwy.

Mae swyddogion y Cyngor wedi cael eu rhybuddio nid yn unig gan sefydliadau colled golwg ond hefyd gan ymgynghorwyr priffyrdd proffesiynol fod y dyluniadau hyn yn anniogel ac yn anhygyrch, ond nid ydynt wedi cymryd unrhyw gamau sylweddol i fynd i’r afael â’r sefyllfa. At hynny, deallwn nad yw’r dyluniadau’n cydymffurfio â chanllawiau Teithio Llesol Cymru, ffaith a gadarnhawyd gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters AS, mewn gohebiaeth â Guide Dogs Cymru ym mis Chwefror 2022. Mae’r llythyr hwn wedi cael ei atodi er gwybodaeth. Cawsom wybod fod llawer o'r dyluniadau yn rhai dros dro, ond maent wedi bod yn eu lle ers sawl blwyddyn bellach ac nid oes dyddiad wedi'i roi ar gyfer eu tynnu.

Rydym wedi casglu tystiolaeth gan drigolion dall ac â golwg rhannol Caerdydd sy’n dweud wrthym “na allant ddechrau disgrifio’r dychryn” maent yn ei deimlo wrth orfod defnyddio’r arosfannau bysiau hyn. Nid oedd rhai yn ymwybodol o'r newidiadau i’r dyluniad ac felly nid oeddent yn gwybod i ddechrau eu bod yn cerdded i mewn i lonydd beicio byw wrth ddal eu bysiau arferol. Mae pobl ddall ac â golwg rhannol wedi dweud eu bod wedi bod yn agos i gael eu taro gan feicwyr a bod eu cŵn tywys yn ddryslyd ac yn methu canfod eu ffordd oherwydd y dyluniadau anghyfarwydd. Yn anffodus, mae llawer o bobl wedi dweud wrthym eu bod wedi colli hyder wrth ddefnyddio’r arosfannau hyn ac yn dewis peidio â defnyddio bysiau i gyrraedd canol y ddinas.

Fel awdurdod cyhoeddus, mae’n ofynnol i Gyngor Caerdydd gadw at Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus (PSED) ac mae'n ofynnol iddo ddangos "sylw dyledus" i'r angen am ddileu gwahaniaethu anghyfreithlon, hyrwyddo cyfle cyfartal a meithrin cysylltiadau da rhwng, ymhlith eraill, pobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl.

Mae Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cyhoeddus asesu effaith debygol penderfyniad (fel cynllun parth cyhoeddus newydd) ac ystyried a fyddai’r penderfyniad yn cael effaith anghymesur ar bobl sy’n rhannu un neu fwy o nodweddion gwarchodedig, gan gynnwys anabledd. Os bydd potensial ar gyfer effaith niweidiol ar bobl sy'n rhannu nodwedd warchodedig yn cael ei nodi, rhaid i awdurdodau wedyn gymryd camau i roi unrhyw newidiadau angenrheidiol ar waith i liniaru'r effaith. O dan yr un rheoliadau, rhaid i awdurdodau ystyried yr angen am gynnwys neu ymgynghori â phobl ag un neu fwy o'r nodweddion gwarchodedig, gan gynnwys anabledd, wrth asesu effaith.

Hyd at nawr, nid yw'n glir o gwbl a yw'r Cyngor wedi ystyried ei ddyletswydd i hyrwyddo cydraddoldeb anabledd mewn perthynas ag effaith y seilwaith beicio hwn sydd wedi'i osod yn ei le o amgylch y ddinas. Os oes asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb wedi'u cynnal, mae'n ymddangos nad ydynt fawr mwy nag ymarfer ticio bocsys a lle mae effeithiau negyddol wedi'u nodi, ychydig iawn o ystyriaeth neu ymgais bellach i liniaru a geir. Gydag ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i roi’r Model Cymdeithasol o Anabledd ar waith ym mhob rhan o’i pholisi a’i harferion, dylai awdurdodau lleol fod yn ceisio dilyn yr un drefn, ond nid ydym yn gweld rhyw lawer o dystiolaeth bod Cyngor Caerdydd yn deall y Model Cymdeithasol a’i berthnasedd i hygyrchedd dyluniad strydoedd.

Pwysigrwydd ymgynghori ac ymgysylltu

Mae ymgynghori ac ymgysylltu da yn allweddol i gyflawni’r PSED yn effeithiol ac eto, fel rydym wedi amlinellu yn ein gohebiaeth flaenorol, mae’n ymddangos bod adborth gan y Grŵp Cydraddoldeb a Mynediad a’i aelodau yn cael ei anwybyddu i raddau helaeth. Nid yw’r swyddogion cyfrifol wedi mynychu pan drafodir cynlluniau maent yn eu harwain felly nid oes modd egluro manylion penodol ar y pryd. Yn aml nid yw ymholiadau a godir gan cynrychiolwyr RNIB a Guide Dogs yn ystod cyfarfodydd yn cael eu hateb ac mae cynlluniau'n parhau i gael eu rhannu fel dogfennau PDF anhygyrch sy'n cynnwys darluniau sy'n dechnegol gymhleth ac yn anhygyrch i aelodau â cholled golwg.

Er gwaethaf ein rhwystredigaethau, rydym wedi ymgysylltu â’r Grŵp Cydraddoldeb a Mynediad yn ddidwyll. Nodwyd ein pryderon am ddyluniadau ar gyfer byrddwyr bysiau yng nghofnodion y Grŵp Cydraddoldeb a Mynediad ym mis Hydref 2021, a chydnabuwyd cwyn ffurfiol a gyflwynwyd gan Guide Dogs trwy e-bost gan un o swyddogion y cyngor ar 13 Hydref. Cododd Guide Dogs y gŵyn hon yn dilyn adroddiad gan deithiwr bws gyda cholled golwg a gamodd yn syth i lôn feiciau oddi ar y bws oherwydd nad oedd yn ymwybodol o’r perygl.

Cofnodwyd pryderon parhaus yn y cyfarfodydd dilynol:

Tachwedd 2021 – yn dilyn ymweliad safle a drefnwyd gan Guide Dogs, a fynychwyd gan trigolion dall ac â golwg rhannol, un o swyddogion y cyngor a fu’n ymwneud â chyflwyno’r cynllun, a Chadeirydd y Grŵp Cydraddoldeb a Mynediad, cytunwyd i adolygu’r dyluniadau yn gynnar yn 2022. Dywedwyd wrthym y byddai mesurau interim yn cael eu gosod megis arwyddion yn cyfarwyddo beicwyr i arafu ac y byddai adolygiad allanol yn cael ei gomisiynu. Er bod rhai camau wedi’u cymryd, nid ydynt yn lleddfu pryderon pobl â cholled golwg yn ddigonol. Yn ychwanegol, nid oedd yr adolygiad allanol, a gynhaliwyd yn yr hydref y flwyddyn honno, yn hygyrch i aelodau dall ac â golwg rhannol y Grŵp Cydraddoldeb a Mynediad. Methodd â mynd i’r afael â’r holl faterion diogelwch, fel yr eglurwyd yng nghofnodion y cyfarfod ym mis Rhagfyr 2022. Mae'r holl ddeialog hon wedi'i chofnodi'n ffurfiol ac mae'n catalogio lefel wael o ymgysylltu ar ran y cyngor, er gwaethaf ein holl ymdrechion i ddod o hyd i atebion ymarferol.

Fel prifddinas Cymru, fe ddylai Caerdydd fod yn esiampl o gydraddoldeb ac rydym wedi gweld sut gellir cyflawni hyn. Roedd Grŵp Ffocws Mynediad Cyngor Caerdydd gynt (CCAFG), a gadeiriwyd gan Dr. Robert Gravelle, yn cael ei ystyried yn enghraifft o arfer gorau a buom yn gweithio gyda'n gilydd i ddod o hyd i atebion cynhwysol a oedd yn gweithio i'r rhan fwyaf, os nad pawb, o’r trigolion ac ymwelwyr. Seiliwyd y llwyddiant hwnnw ar gyfathrebu da ac ymrwymiad i wrando ac ymateb o ddifrif i bryderon pobl anabl a phobl â nodweddion gwarchodedig eraill. Hoffem weithio gyda chi i ddychwelyd at y model hwn o weithio.

Mae RNIB Cymru a Guide Dogs Cymru wedi gwneud ymdrechion sylweddol i ymgysylltu â'r Cyngor ar y materion a amlinellir uchod ac i dynnu sylw at y problemau y mae pobl ddall ac â golwg rhannol yn parhau i'w profi. Roeddem yn falch i glywed felly pan dywedwyd wrthym mewn cyfarfod o’r Grŵp Cydraddoldeb a Mynediad ar 21 Awst, (2023), y byddai Cyngor Caerdydd yn ceisio am gyllid i gael gwared ar y mannau byrddio bysiau. Mae hyn yn newyddion da wrth gwrs, ac rydym yn falch bod gan yr Ynys Fysiau yn Wood Street groesfan â signalau bellach sy’n opsiwn llawer mwy diogel i bob cerddwr, ond yn enwedig y rhai sydd wedi colli eu golwg.

Mae Guide Dogs Cymru ac RNIB wedi comisiynu Archwiliad Mynediad o'r Mannau Byrddio Bysiau gan ymgynghorydd allanol annibynnol a fydd yn digwydd yn ddiweddarach y mis hwn. Byddem yn falch o rannu hyn gyda chi yn y gobaith y bydd yn llywio eich cynlluniau ar gyfer ailgynllunio'r cynlluniau presennol. O dan yr amgylchiadau, ac o ystyried yr angen am gydymffurfiaeth gyfreithiol, rydym yn annog Cyngor Caerdydd i fynd i’r afael â’n pryderon ynghylch mannau byrddio bysiau fel yr amlinellwyd uchod. Rydym am weld y dyluniadau’n gwbl hygyrch a diogel ac rydym yn argymell ceisio cyngor ymgynghorydd mynediad. Rydym hefyd yn gofyn am ddatganiad clir o ymrwymiad ynghylch ymgysylltu â phreswylwyr dall ac â golwg rhannol a’r sefydliadau sy’n gweithio gyda nhw i hyrwyddo amgylchedd cwbl gynhwysol.

Gofynnwn nawr am drafodaeth ffurfiol cyn gynted â phosibl oherwydd y risgiau gall unrhyw oedi pellach achosi ar gyfer pobl ddall ac â golwg rhannol, er mwyn edrych ar y camau nesaf ar gyfer cael gwared ar y mannau byrddio bysiau a’r amserlen ar gyfer y newid hollbwysig hwn.

Yn gywir,

Ansley Workman, Cyfarwyddwr, RNIB Cymru

Eleanor Briggs, Pennaeth Polisi, Materion Cyhoeddus ac Ymgyrchoedd Campaigns, Guide Dogs