Shop RNIB Cyfrannwch nawr

Helen, sy’n raddedig, yn disgrifio sut bu’n astudio wrth fyw gyda cholled golwg

Eight people stood in a line. One of them is wearing graduation robes.

Helen Russell gyda'i theulu

Mae mam-gu o Abertawe sydd â cholled golwg wedi graddio o'r Brifysgol Agored yng Nghymru gyda BSc (Anrh) mewn Troseddeg a Seicoleg.

Mae Helen Russell, sydd â dystroffi côn, yn gweithio yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder a dechreuodd astudio yn 2015. Dewisodd y radd hon drwy ei gwaith yn y llysoedd barn, a chafodd ei hannog gan ei chydweithwyr i feddwl am y Brifysgol Agored.

“Roeddwn i’n chwilio am atebion a gwell dealltwriaeth o’r natur ddynol, personoliaeth a chysylltiadau â throseddeg,’ meddai Helen. ‘Mae’r cwrs wedi fy nysgu i fod yn fwy chwilfrydig, i beidio â chymryd pethau fel maen nhw’n edrych, ac i beidio â barnu.”

Dod o hyd i ddewrder

Er bod Helen bellach yn raddedig ac yn falch iawn o hynny, mae'n cyfaddef ei bod yn poeni i ddechrau am gofrestru ar gyfer ei chwrs.

“Fe gymerodd sawl ymdrech i wneud galwad cyn i mi ddod o hyd i’r dewrder i wneud yr alwad a sgwrsio,” eglura. ‘Doeddwn i ddim yn meddwl bod ‘pobl fel fi’ yn gallu astudio i lefel gradd ac fe ddois i o hyd i bob esgus dan haul i beidio â bwrw ymlaen.

“Drwy dawelu fy ofnau ynghylch yr arholiad, gwneud addasiadau rhesymol neu gynnig amser ychwanegol gyda thiwtoriaid pe byddwn i angen hynny, roedd y Brifysgol Agored yn galonogol bob amser.”

Mae'r Brifysgol Agored yn arbenigwyr mewn dysgu o bell rhan amser gyda chymorth, sy'n golygu y gallwch chi ddewis ble a phryd i astudio fel ei fod yn cyd-fynd â'ch bywyd.

Roedd Helen yn gymwys i gael Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA). Drwy hyn rhoddwyd gliniadur iddi gyda ZoomText, a oedd yn galluogi iddi chwyddo testun ar y sgrin a'i ddarllen. Gan fod angen iddi ddefnyddio ffont 36 pwynt, cafodd hefyd gyflenwad o bapur ac inc argraffydd, gan orfod argraffu sawl dalen yn aml i adolygu ei gwaith.

“Roedd y Brifysgol Agored mor gefnogol o’r dechrau un,’ meddai. ‘Fe wnaethon nhw fy arwain i drwy’r cais DSA, rhoi gwybod i bob tiwtor ymlaen llaw ac roedd eu harweiniad yn drylwyr. Fe wnes i siarad dros y ffôn i ddechrau, wedyn cyflwyno tystiolaeth feddygol, fy rhif cofrestru CVI a llythyr gan y meddyg teulu. Roedd y broses yn hwylus iawn.”

Helen Russell yn defnyddio offer o Lwfans Myfyriwr Anabl

Dathlu yn yr Alban

Yn ogystal â’r gefnogaeth a gafodd i astudio, canfu Helen bod hyblygrwydd y Brifysgol Agored yn gweddu i’w hamgylchiadau. Wrth adlewyrchu ar ei chwe blynedd o astudio, dywedodd y byddai'n gwneud y cyfan eto yn bendant.

Er ei bod yn dod o dde orllewin Cymru, dewisodd Helen raddio mewn seremoni gyda’r Brifysgol Agored yn yr Alban er mwyn i’w theulu allu ymuno â hi.

“Fe wnes i deithio i Glasgow gan fod fy wyrion i eisiau gweld Nana’n graddio,” meddai. “Hwn oedd diwrnod balchaf fy mywyd i o ddigon.”

“Rydyn ni wrth ein bodd yn clywed am brofiad gwych Helen o astudio gyda’r Brifysgol Agored,” meddai Cyfarwyddwr RNIB Cymru, Ansley Workman. “Mae’n dangos yn glir, gyda’r gefnogaeth gywir a darpariaeth hygyrchedd, nad yw colled golwg yn rhwystr i lwyddiant. Dymunwn y gorau i Helen ac edrychwn ymlaen at glywed mwy o straeon graddio gan fyfyrwyr dall ac â golwg rhannol.”

I gael rhagor o wybodaeth am astudio yn y brifysgol, ewch i https://www.rnib.org.uk/living-with-sight-loss/education-and-learning/education-for-young-people/starting-university/.

Mwy o wybodaeth am gyfleoedd a chyllid Y Brifysgol Agored yng Nghymru yn www.open.ac.uk