Gweledigaeth ar gyfer dyfodol tecach: ein blaenoriaethau ar gyfer Llywodraeth Cymru
Mae’r 112,000 o bobl ddall ac â yng Nghymru yn wynebu nifer o heriau yn eu bywydau bob dydd, o strydoedd a thrafnidiaeth gyhoeddus anhygyrch i ddiffyg cyfleoedd cyflogaeth ac anawsterau gyda mynediad at ofal iechyd.
Mae llawer o'r materion hyn yn ganlyniad i anghydraddoldebau systematig neu ddifyg ystyriaeth briodol o anghenion pobl â cholled golwg wrth wneud penderfyniadau.
Gydag ethol Prif Weinidog Newydd a ffurfio Cabinet newydd, yr ydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ganolbwyntio ar nifer o flaenoriaethau allweddol a fydd yn helpu i fynd i’r afael â’r materion hyn, a drwy wneud hynny creu Cymru sy’n decach ar gyfer pobl â colled golwg.