Shop RNIB Cyfrannwch nawr

Pleidleisio ac etholiadau: yr hyn sydd angen i chi wybod

A hand dropping a folded ballot into a ballot box.

Llaw yn gollwng pleidlais wedi'i phlygu mewn i flwch pleidleisio.

Mae gan bob pleidleisiwr hawl i bleidleisio’n annibynnol ac yn gyfrinachol, ac mae’n rhaid i awdurdodau lleol sicrhau bod gorsafoedd pleidleisio yn hygyrch i bobl sydd sydd â cholled golwg.

Voter ID

As a result of the Elections Act 2022, voters will now be required to bring photo ID to polling stations in order to vote for some elections. This includes the General Election on 4 July. where photo ID is required.

There is a list of accepted forms of photo ID on the Electoral Commission’s website.

For voters who don’t have any photo ID, there are currently three options. You can either apply for a free voter ID certificate, known as the Voter Authority Certificate; you can apply for a postal vote (where photo ID is not a requirement) , or you can apply for a proxy vote (where again photo ID is not a requirement).

You can apply for a Voter Authority Certificate at any time: they are not specific to a particular election, and do not technically expire.

The deadline to apply for a Voter Authority Certificate is 5pm Wednesday 26 June.

Sut i ofyn am addasiad rhesymol

Mae gennych hawl i ofyn am addasiad rhesymol i bleidleisio yn yr Etholiad Cyffredinol. Byddem yn eich annog i ysgrifennu at eich Swyddog Canlyniadau lleol neu wasanaethau etholiadol lleol cyn gynted â phosibl, i’w hysbysu bod angen addasiadau rhesymol arnoch er mwyn pleidleisio’n annibynnol.

Cam 1

Dewch o hyd i fanylion cyswllt eich Swyddog Canlyniadau lleol, ar offeryn chwilio cod post y Comisiwn Etholiadol

Cam 2

Defnyddiwch ein templed llythyr hysbysu i ofyn am ddyfais sain neu ddyfais sain - gyffyrddol.

Important information for blind and partially sighted voters in Wales.

Yr hyn y gallwch ofyn amdano

Audio Accord

Gellir defnyddio dyfais sain yn yr orsaf bleidleisio, gan alluogi pleidleisiwr i adolygu'r papur pleidleisio drwy wrando ar recordiad o'r ymgeiswyr yn yr un drefn ag y maen nhw’n ymddangos ar y papur pleidleisio. Dim ond un fersiwn o ddyfais o'r fath yma yw'r Audio Accord. Gellir ei ddefnyddio ar y cyd â Dyfais Bleidleisio Gyffyrddol (TVD) neu dempled tebyg sy'n ffitio dros y papur pleidleisio er mwyn lleoli'r blychau pleidleisio.

Darllenydd McGonagle (MGR)

Dyfais sain-gyffyrddol yw hon, gyda chwaraewr sain integredig. Mae'n cynnwys templed plastig sy'n ffitio ar y papur pleidleisio i alluogi pobl ddall ac â golwg rhannol i ddod o hyd i'r blychau pleidleisio.

Mae canllawiau hefyd wedi’u cyhoeddi i staff gorsafoedd pleidleisio i’w gwneud yn glir y gall apiau ffôn symudol (fel “Seeing AI” sy’n gallu defnyddio Deallusrwydd Artiffisial i ddarllen testun print), neu ddyfeisiau chwyddo fideo, gael eu defnyddio gan bobl ddall ac â golwg rhannol fel addasiad rhesymol ar gyfer pleidleisio.

Hygyrchedd ar ddiwrnod yr etholiad

Yn dilyn Deddf Etholiadau 2022, mae’n ofynnol bellach i Swyddogion Canlyniadau – swyddogion sy’n goruchwylio etholiadau – wneud darpariaethau i bobl anabl alluogi pleidlais annibynnol a chudd. Rhaid i Swyddogion Canlyniadau ddilyn canllawiau hygyrchedd y Comisiwn Etholiadol.

Er mwyn cefnogi pleidleiswyr dall ac â golwg rhannol, mae'n ofynnol i bob gorsaf bleidleisio gael:

  • Dyfais bleidleisio gyffyrddol.
  • Copi print bras o'r papur pleidleisio.
  • Chwyddwyr.
  • Goleuadau ychwanegol.
  • Assistance from polling station staff to be guided to the voting booth and to mark your vote if needed.

Mae hefyd yn ofynnol i Swyddogion Canlyniadau ragweld yr hyn sydd ei angen yn eu hardal a gallant ddarparu offer ychwanegol, megis dyfeisiau sain i alluogi rhywun i bleidleisio'n annibynnol ac yn gyfrinachol.

If you would like an alternative version of party manifestos, the information for each party is below.

Conservative

Alternative formats aren't live yet but will be available on the Conservative Party website.

RNIB will be printing and dispatching hardcopy braille versions of the manifesto. If you like to receive a hardcopy braille version, please email [email protected].

Greens

Please email [email protected] or call 020 3691 9400 to request the Green Party manifesto in alternative formats.

Labour

Alternative formats are available on the Labour Party website: Manifesto accessibility – The Labour Party.

RNIB will be printing and dispatching hardcopy braille versions of the manifesto. If you like to receive a hardcopy braille version, please email [email protected].

Liberal Democrats

Alternative formats are available on the Liberal Democrats website: For a Fair Deal - Liberal Democrats Manifesto 2024 - Liberal Democrats (libdems.org.uk).

The Liberal Democrats have requested that any hardcopy braille requests are sent to [email protected] or call 020 7022 0988.

Plaid Cymru

Alternative formats are on the Plaid Cymru website: https://www.partyof.wales/manifesto

Reform

Please email [email protected] or call 0800 414 8525 to request the Reform party manifesto in alternative formats.

SNP

Manifesto launch June 19. Alternative formats request contact information to follow launch date.

Rhagor am bleidleisio’n hygyrch

Ffurflen bleidlais print bras

Yn ôl y gyfraith, rhaid i bob gorsaf bleidleisio arddangos copi print bras o'r papur pleidleisio. Rhaid iddynt hefyd ddarparu copi cyfeirio i chi fynd ag ef i'r bwth gyda chi. Gallwch ddefnyddio'r copi print bras i ddarllen yr holl wybodaeth ar y ffurflen bleidleisio, ond mae'n rhaid i chi ddal i fwrw'ch pleidlais ar bapur pleidleisio print safonol.

Dyfais bleidleisio gyffyrddol

Os ydych chi'n cael trafferth llenwi'r papur pleidleisio print safonol, gallwch ddefnyddio dyfais bleidleisio gyffyrddol i helpu i farcio'ch pleidlais yn y lle cywir. O dan arweiniad y Comisiwn Etholiadol, mae'n ofynnol i bob gorsaf bleidleisio ddarparu dyfais gyffyrddol ar gyfer pobl sydd â cholled golwg.

Mae gan y ddyfais bleidleisio gyffyrddadwy gefn gludiog, sy'n glynu ar ben eich papur pleidleisio. Mae ganddo fflapiau wedi'u rhifo (mae'r niferoedd wedi'u codi ac mewn braille) yn union dros y blychau lle yr ydych yn marcio'ch pleidlais.

Bydd angen i chi ddefnyddio'r ffurflen pleidleisio print bras neu ofyn i rywun (cydymaith neu staff gorsaf bleidleisio) ddarllen y rhestr ymgeiswyr yn uchel i chi. Mae'r ymgeiswyr yn nhrefn yr wyddor. Bydd angen i chi gofio rhif yr ymgeisydd yr ydych yn dymuno pleidleisio drosto, yna codi'r fflap gyda'r un rhif a marcio eich croes (X) yn y blwch.

Yna gallwch ddatgysylltu'r ddyfais gyffyrddol a phlygu'ch papur pleidleisio yn ei hanner cyn ei bostio yn y blwch pleidleisio.

Darpariaeth sain.

Er mwyn gwybod trefn yr ymgeiswyr ar y papur pleidleisio gallwch anfon cais at eich Swyddog Canlyniadau lleol am ddarpariaeth sain. Efallai y byddant yn gallu darparu dyfais sy'n gallu darllen drefn yr ymgeiswyr yn uchel fel maen nhw’n cael eu rhestru ar y papur pleidleisio, neu rannu ffeil sain cyn yr etholiadau gyda'r rhestr o ymgeiswyr, yn y drefn y maen nhw’n ymddangos ar y papur pleidleisio.

Cymorth yn yr orsaf bleidleisio

Os cewch anhawster wrth ddefnyddio'r papur pleidleisio print bras a'r ddyfais bleidleisio gyffyrddol, gallwch hefyd ofyn i rywun eich helpu yn yr orsaf bleidleisio. Gallant helpu i'ch arwain rhwng y fynedfa, y ddesg, y bwth pleidleisio a'r blwch pleidleisio. Mae hi hefyd yn bosib iddyn nhw bleidleisio ar eich rhan os mai dyna yw eich dewis.

Gallai'r person sy'n eich helpu fod yn un o staff y gorsafoedd pleidleisio neu'n gydymaith i chi. Yn dilyn newidiadau a gyflwynwyd yn y Ddeddf Etholiadau, gall eich cydymaith fod yn unrhyw un dros 18 oed. Bydd yn ofynnol i'ch cydymaith wneud datganiad ysgrifenedig eich bod wedi gofyn am gymorth.

Pleidleisio drwy ddirprwy

Os ydych wedi cofrestru i bleidleisio ond na fyddwch yn gallu cyrraedd gorsaf i bleidleisio, gallwch benodi rhywun yr ydych yn ymddiried ynddo i fynd i'ch gorsaf i bleidleisio ar eich rhan. Gelwir hyn yn pleidleisio drwy ddirprwy.

Yn wahanol i bleidleisio drwy'r post, mae angen i chi roi rheswm dros eich pleidlais drwy ddirprwy. Dylai egluro eich bod yn ei chael yn anodd cyrraedd yr orsaf bleidleisio oherwydd eich colled golwg neu anabledd arall yn ddigon.

Bydd angen i chi gofrestru i bleidleisio drwy ddirprwy o leiaf chwe diwrnod gwaith cyn yr etholiad drwy lenwi ffurflen gais (mae yna wahanol ffurflenni cais yn dibynnu ar eich rheswm dros ofyn am bleidlais drwy ddirprwy) a'i hanfon yn ôl i'ch swyddfa cofrestru etholiadol lleol. Oni bai eich bod wedi'ch cofrestru'n ddall bydd angen rhywun arnoch i gefnogi'ch cais (fel meddyg teulu neu weithiwr cymdeithasol).

Gallwch ffonio gwasanaethau etholiad eich awdurdod lleol i gael un o'r ffurflenni yma.

Pleidleisio drwy'r post

Gallwch wneud cais i bleidleisio drwy'r post yn hytrach na mynd i orsaf bleidleisio.

Os ydych wedi cofrestru i bleidleisio drwy'r post bydd papur pleidleisio yn cael ei anfon atoch. Gallwch fwrw eich pleidlais gartref gan ddefnyddio eich chwyddwydrau neu offer eich hun, yn hytrach na mynd i'ch gorsaf bleidleisio.

Gallwch hefyd ofyn am gymorth gartref, gan gynnwys dyfais bleidleisio gyffyrddol, ffurflen pleidleisio print bras i gyfeirio ati, a chymorth i ddychwelyd eich ffurflen bleidleisio wedi'i chwblhau.