Y llwybr cefnogi gofal llygaid
Mae’r #LlwybrCefnogiGofalLlygaid yn fframwaith i’r GIG, sefydliadau gofal cymdeithasol, y trydydd sector a’r cyhoedd ei ddefnyddio i gefnogi trawsnewid gwasanaethau gofal llygaid.
Mae’r fframwaith, y manylir arno mewn adroddiad gan RNIB a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd (2023), yn nodi pam mae angen i ni integreiddio cymorth anghlinigol â llwybrau gofal llygaid presennol. Mae’r adroddiad yn dangos yr hyn sydd ei angen ar bobl ar bob cam o’u taith gofal llygaid. Mae’r adroddiad a’r fframwaith wedi’u cydgynhyrchu gyda phobl sydd â phrofiad byw o golled golwg, sefydliadau yn y trydydd sector, y GIG a gofal cymdeithasol.
Ein huchelgais ar y cyd ar gyfer y llwybr yw ei fod yn sicrhau o’r foment mae rhywun yn sylweddoli “nad yw rhywbeth yn gwbl iawn” gyda’i olwg, hyd at ddiagnosis a gallu byw yn hyderus – ac yn annibynnol – gyda’i gyflwr, mae gan bobl fynediad at y wybodaeth, a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt.
Y llwybr
Mae pedwar cam allweddol i’r llwybr cymorth gofal llygaid –
- Cael fy apwyntiad cyntaf
- Cael cadarnhad o ddiagnosis
- Cefnogaeth ar ôl fy diagnosis
- Byw’n dda gyda fy nghyflwr
Rhwng pob cam mae cyfnodau o aros. Ochr yn ochr â’r camau hyn mae tair thema sy’n berthnasol ar draws y llwybr cymorth gofal llygaid.
Dyma nhw:
- Deall fy nhaith gofal llygaid
- Deall fy niagnosis
- Mynediad at gymorth emosiynol ac ymarferolGan ddefnyddio’r fframwaith llwybr, mae anghenion pobl wedi’u mapio ar gyfer pob cam o’r llwybr ochr yn ochr ag arfer da presennol.
Sut i ddysgu mwy a chymryd rhan
Bydd gwaith yn y dyfodol yn canolbwyntio ar weithredu'r llwybr a dosbarthu'r adroddiad. Edrychwch ar wefan yr RNIB ac mewn fforymau cenedlaethol a rhanbarthol ledled y DU am ddiweddariadau.
Os oes gennych golled golwg neu gyflwr llygad ac yr hoffech dderbyn gwybodaeth, cyngor a chymorth, cysylltwch â RNIB ar ein Llinell Gymort 0303 123 9999 or email [email protected].
Er mwyn derbyn rhagor o wybodaeth a thrafodaeth am y llwybr a’r adroddiad, cysylltwch â [email protected] neu [email protected]
Ar gyfer trafodaethau gwlad-benodol, cysylltwch â Chyfarwyddwyr Gwlad RNIB neu Reolwyr Ymgysylltu’r GIG:
- E Lloegr: [email protected] or [email protected]
- Cymru: [email protected] or [email protected]
- Yr Alban: [email protected] or [email protected] or [email protected]
- Gogledd Iwerddon: [email protected] or [email protected]