“Archfarchnadoedd a siopa ar-lein yn broblem enfawr”, meddai ymgyrchwyr
Rydyn ni wedi derbyn nifer fawr o alwadau i’n Llinell Gymorth gan bobl ddall ac â golwg rhannol sy’n bryderus am sut gallant wneud eu siopa.
Dyma dri llais o Gymru i siarad am eu profiadau a pham mae’n rhaid i’r sefyllfa wella.
Rachel Jones, o Bowys:
Rydw i’n byw yng nghanolbarth Cymru ac yn eithaf ynysig beth bynnag, ond nawr dydw i ddim yn gallu mynd i’r archfarchnad o gwbl. Yr agosaf yw Sainsburys ac mae 30 milltir i ffwrdd. Dydw i ddim yn gallu defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, mae fy ngŵr i’n gweithio rownd y cloc yn y maes gweithgynhyrchu bwyd ac mae fy rhieni oedrannus i’n gorfod hunan-ynysu. Mae fy rhwydwaith cefnogi i wedi diflannu.
“Mae Co-Op lleol yma ond mae’r silffoedd yn wag drwy’r adeg. Mae fy ngŵr i’n ceisio dod â bwyd yn ôl pan mae’n gallu ond does prin byth ddim byd i’w brynu. Hyd yn oed pe bawn i’n gallu cyrraedd yr archfarchnad, fe fyddai’n beryglus oherwydd ’fyddwn i ddim yn gallu cadw pellter cymdeithasol priodol. Dydi o ddim werth y risg. Siopa ar-lein yw fy unig opsiwn i.”
“Dydw i ddim wedi gallu cael bwyd wedi’i ddosbarthu ers wythnosau a dydw i ddim yn gallu cofrestru fy hun ar gyfer dosbarthu blaenoriaeth. Rydw i wedi bod yn teimlo bod rhaid i mi fod yn ofalus gyda faint o’r bwyd yn y cwpwrdd rydw i’n ei fwyta rhag ofn i mi fethu mynd i siop am wythnosau. Mae fy ngŵr i adref fwy nawr diolch byth ac rydw i wedi cael cynigion gan y gymuned ar gyfer dosbarthu bwyd, ond rydw i’n poeni am bobl eraill yn fy sefyllfa i sydd â llai o gefnogaeth na fi. Mae’n rhwystredig ac mae’n rhaid i archfarchnadoedd sylweddoli bod pobl ddall ac â golwg rhannol angen cefnogaeth ychwanegol hefyd.”
Chris Reddington, o Gaerdydd:
“Dydw i ddim yn gweld mor dda â’r rhan fwyaf o bobl, ond dydi hynny ddim bob amser yn amlwg i staff archfarchnadoedd pan rydw i’n cyrraedd siop. Fel rheol rydw i’n annibynnol iawn ond yn teimlo bod rhaid i mi gyflwyno fy hun fel unigolyn bregus nawr.
“Ryw bythefnos yn ôl, fe es i i Aldi ac roedd yn amhosib cadw pellter cymdeithasol. Doedd neb yn fy ngweld i fel rhywun â cholled golwg ac roedd pobl yn fy ngwthio i o’r ffordd er mwyn cael gafael ar bethau.
“Fe gefais i brofiad llawer gwell yn Sainsburys. Roedd yn gynnar ac roedd y siop yn derbyn pobl ag anableddau fel blaenoriaeth. Fe ddaeth aelod o staff i fy helpu i ac roedd yn grêt am gadw pellter cymdeithasol mewn ffordd greadigol. Fe wnaeth fy arwain i gyda throli er mwyn i mi allu mynd rownd y siop heb fod yn rhy agos ati. Fe aeth hi â ni drwy’r til hunan-dalu a sganio popeth a’i adael i ni ei godi. Roedd yn llawer llai o straen. Doeddwn i ddim yn taro i mewn i bobl na phethau, ond yn anffodus, eithriad, nid norm, yw’r drefn yma.
“Rydw i wedi clywed straeon difrifol am bobl yn ceisio cael slot dosbarthu ar-lein felly dydw i heb geisio gwneud hynny. Rydw i hefyd wedi teimlo bod rhai gwefannau siopa ar-lein yn anhwylus iawn. Er enghraifft, mae ap Ocado yn grêt ond mae wedi methu gweithio’n ddiweddar oherwydd gormod o ddefnydd. Fe wnes i geisio archebu ar y wefan ond roedd yn amhosib ei defnyddio. Mae mor rhwystredig i bobl sy’n cael anhawster gydag archfarchnadoedd, oherwydd mae’r opsiwn i archebu ar-lein wedi diflannu nawr. Rydw i’n teimlo y byddai pethau’n llawer haws pe baen ni’n gallu datgan ein bod ni angen help ychwanegol, ond dydyn ni ddim yn gallu gwneud hynny.”
Gemma Jones, o Abertawe:
“Rydw i’n fam sengl ddall gyda thri o blant ac rydw i wedi cael anhawster mawr ers y cyfyngiadau symud. Roedd rhaid i fy nheulu i hunan-ynysu am bythefnos gan fod gan un o’r plant symptomau a doedd fy nghynorthwywyr i ddim yn gallu dod i mewn i helpu.
“Doeddwn i ddim yn gallu mynd i’r archfarchnad a phan wnes i edrych ar-lein, roedd y slotiau dosbarthu’n wallgof – roedd mis o amser aros bron. Yn y diwedd fe lwyddais i i ddod o hyd i safle y gallwn i archebu arno ond roedd llawer o bethau wedi gwerthu allan ac felly roedd rhaid i mi ddewis opsiynau drutach.
“Pan ddaeth yr archeb roedd llawer o eitemau wedi cael eu newid am bethau eraill, sy’n gwneud pethau’n anodd oherwydd rydw i wedi arfer prynu rhai brandiau hawdd eu hadnabod gartref. Roedd llawer o bethau ar goll o fy archeb i hefyd. Roedd y plant eisiau tost i swper ryw noson, ond doedd gennym ni ddim bara o gwbl.
“Mae fy nghynorthwy-ydd i’n gallu dod i’r tŷ eto nawr felly rydw i’n gallu gofyn iddi hi siopa, ond mae’n straen enfawr ar ei hamser hi oherwydd mae siopa am 30 munud fel arfer yn gallu cymryd tair awr nawr. Mae’n llawer i ofyn iddi. Mae’n rhaid i archfarchnadoedd ddeall y problemau ychwanegol mae pobl ddall ac â golwg rhannol yn eu hwynebu. Ni ddylai unrhyw un fod heb bethau oherwydd eu hanabledd.”