Stori Rachel: Fe newidiodd fy Swyddog Adfer Golwg i fy mywyd i
Fy enw i ydi Rachel Jones ac rydw i'n wirfoddolwr gydag RNIB Cymru o ganolbarth Cymru.
Fe gefais i fy ngeni gyda Retinitis Pigmentosa, a chefais ddiagnosis pan oeddwn i’n saith oed. Er i mi dreulio fy mhlentyndod gyda cholled golwg, ’chefais i ddim un ymyriad na chymorth ymarferol, real gan unrhyw un. Drwy gyfuniad o fyw mewn ardal wledig iawn a heb dderbyn fy nghyflwr llygaid fel ffaith mewn gwirionedd, roeddwn i mewn lle ynysig iawn.
Yn fy 20au fe ddechreuais i gael rhai cymhlethdodau gyda fy ngolwg. Fe gollais i fwy o olwg a dechrau byw bywyd hyd yn oed yn fwy ynysig.
Wedyn, pan oeddwn i’n 33 oed, fe gefais i fy nghofrestru fel Person â Cholled Golwg Difrifol.
Fe newidiodd y digwyddiad yma fy mywyd i’n llwyr. Roeddwn i bob amser yn gwneud fy ngorau i esgus nad oedd fy ngholled golwg i’n bodoli, neu nad oedd yn effeithio arnaf i. Roedd yn gas gen i siarad amdano. Roedd y ffaith ’mod i bellach wedi cael fy nghofrestru’n golygu bod rhaid i mi siarad amdano a'i wynebu, ac rydw i'n diolch i fy Swyddog Cyswllt Clinig Llygaid (ECLO) a'r Swyddog Adfer (ROVI) am fy helpu i, y tu hwnt i eiriau, i dderbyn, addasu a dechrau byw bywyd llawer gwell.
Rydw i mor ddiolchgar ’mod i wedi cael ROVI gwych, Laura Edwards. Mae hi'n ofalgar, yn dosturiol, yn ymroddedig, yn gall iawn, ac yn wybodus. Yr union fath o berson ddylai fod yn gwneud y gwaith yma.
Fe wnaethon ni weithio ar Sgiliau Byw Bob Dydd - sut i ymdopi o amgylch y tŷ – cyn symud ymlaen at Hyfforddiant Symudedd gyda ffon hir. Hefyd fe wnaeth hi fy helpu i gyda fy sefyllfa ariannol gan fod rhaid i mi roi'r gorau i weithio, i ddeall ble i fynd am gyngor ar fudd-daliadau a lles, a fy helpu i gael grant oedd yn galluogi i’r adran Gofal a Thrwsio addasu fy nghartref i. Oherwydd Laura, fe wnes i ddechrau cymryd rhan mewn llawer o gyfleoedd cymdeithasol a gwirfoddoli. Rydw i wedi ymuno â chlwb Braille a grŵp celf a chrefft ar gyfer pobl â cholled golwg, a dechrau gwirfoddoli gyda’r RNIB.
Roedd cymaint o 'nghyfyngiadau i’n fwy meddyliol na chorfforol, ond roedd Laura'n dal i fy herio i i wneud pethau oedd yn anodd i mi. Roedd hi'n gwybod sut i wneud pethau, a gyda hi wrth fy ochr i, doedd pethau ddim mor anodd â hynny.
Pe bawn i’n gallu crynhoi mewn un gair yr hyn mae Laura wedi’i roi i mi, hyder ydi hwnnw. Hyder i fynd allan ar fy mhen fy hun, i wneud pethau a mwynhau bywyd. Mae’r hyder yma yn ei dro wedi rhoi annibyniaeth i mi. Fe newidiodd gweithio gyda Laura fy mhersbectif i’n llwyr, ac rydw i'n berson gwahanol nawr – mae gen i fwy o hyder, hunansicrwydd ac annibyniaeth nag erioed.
Ar ôl cael profiad mor bositif, rydw i’n poeni wrth glywed nad ydi pobl eraill mor lwcus. Mae'n ymddangos bod loteri cod post gyda gwasanaethau adfer yng Nghymru. Mae nifer y bobl sy'n hyfforddi yn lleihau ac mae ROVIs sefydledig yn ymddeol, ac nid oes cyrsiau hyfforddi ROVI ar gael yng Nghymru.
Mae'n hawdd gweld gwasanaethau fel adfer fel ystadegau neu rifau ar daenlen, neu arwyddion punt mewn cyllideb. Ond mae'r gwaith mae Swyddogion Adfer yn ei wneud yn cael effaith ddwys a pharhaol ar y rhai maen nhw’n eu helpu. Maen nhw’n helpu pobl i ddod yn aelodau gweithredol o gymdeithas, sy'n amhrisiadwy.