RNIB Cymru yn dathlu 100fed pen blwydd Gorymdaith hanesyddol y Deillion
Mae Ebrill 2020 yn fis arbennig iawn i bobl ddall ac â golwg rhannol ym Mhrydain.
Er nad yw llawer o bobl yn ymwybodol o’i arwyddocâd efallai, mae’n nodi canmlwyddiant cam enfawr ymlaen dros hawliau pobl sy’n byw â cholled golwg yng Nghymru a gweddill y DU.
Ar Ebrill 5ed 1920, cychwynnodd pobl ddall ac â golwg rhannol o wahanol leoliadau ledled y DU a gorymdeithio i Lundain yn enw cydraddoldeb. Cychwynnodd bron i 40 o bobl o Gasnewydd, De Cymru, gan gyrraedd Sgwâr Trafalgar ar Ebrill 25ain.
Arweiniodd eu gweithredoedd at newid sylweddol i hawliau pobl ag anableddau a chrëwyd Deddf Pobl Ddall 1920 – y gyfraith gyntaf o’i bath.
Nawr, 100 mlynedd yn ddiweddarach, rydyn ni’n nodi’r digwyddiad mewn ffordd arbennig iawn. Er nad ydyn ni’n gallu dod at ein gilydd wyneb yn wyneb i ddathlu yn ystod y cyfnod heriol yma, rydyn ni’n gofyn i bobl ddefnyddio eu un ymarfer y dydd i gofio am y digwyddiad a chymryd eu camau eu hunain dros gydraddoldeb.
Y cyfan sydd raid i chi ei wneud yw ffilimio eich hun ar eich ffôn yn esbonio eich bod yn dathlu canmlwyddiant Gorymdaith y Deillion a pham rydych chi’n cymryd rhan. Efallai y byddwch eisiau siarad am beth rydych chi’n ei feddwl sydd wedi newid i bobl ddall ac â golwg rhannol yn ystod y 100 mlynedd ddiwethaf a beth sydd angen newid o hyd, beth yw ystyr cydraddoldeb i chi a pham mae’n bwysig, ac unrhyw brofiadau personol o anghydraddoldeb rydych chi wedi’u hwynebu a pham nad yw hyn yn dderbyniol mewn cymdeithas heddiw.
Rhannwch eich fideo gyda ni ar gyfryngau cymdeithasol gyda’r hashnod #GorymdaithYDeillion ac ymunwch â’n mudiad ni ar-lein.
Mae Gareth Davies, o Gaerdydd, yn dathlu’r orymdaith ar fideo a dywedodd: “Efallai nad yw llawer o bobl yn gyfarwydd â hanes Gorymdaith y Deillion, ond roedd yn gam pwysig ymlaen i bobl ddall ac â golwg rhannol ledled y DU. Er nad ydyn ni’n gallu cofio’r orymdaith wyneb yn wyneb y tro yma, fe allwn ni i gyd ddod at ein gilydd i gofio’r garreg filltir yma mewn ffordd fechan ond arwyddocaol.
“Rydyn ni wedi dod mor bell mewn 100 mlynedd, ond mae rhwystrau y mae’n rhaid eu goresgyn o hyd. Mae gennym ni i gyd achosion y bydden ni’n hoffi eu gwthio ymlaen. Fe fydda’ i’n gorymdeithio er mwyn codi ymwybyddiaeth o gyflogaeth i bobl â cholled golwg ac mae Rhian yn gorymdeithio i dynnu sylw at ei hymgyrch yn erbyn parcio peryglus ar balmentydd. Gobeithio y bydd llawer mwy o bobl ddall ac â golwg rhannol ledled Cymru’n rhannu eu fideos dros gydraddoldeb drwy gydol mis Ebrill.”