Shop RNIB Cyfrannwch nawr

RNIB Cymru: Gwneud pleidleisio’n hygyrch i bawb

Annwyl Gwnsler Cyffredinol,

Ymarferiad gweledol yw pleidleisio

Mae pleidlais annibynnol a chyfrinachol yn hawl ddemocrataidd sylfaenol sy’n perthyn i bob dinesydd sy’n byw mewn cymdeithas ddemocrataidd.

Ymarferiad gweledol yw pleidleisio - o ddarllen y papur pleidleisio, hyd at ddod o hyd i'r blwch cywir ar gyfer eich hoff ymgeisydd ac yna marcio eich papur. Mae hyn yn golygu bod y mwyafrif helaeth o bobl ddall yn cael eu gorfodi i rannu eu bwriad ar gyfer pleidleisio, naill ai gydag aelod o'r teulu, ffrind neu staff gorsaf bleidleisio. Mae pleidleiswyr dall yn dweud eu bod yn cael eu bychanu a’u siomi gan y system, ac mewn rhai achosion nid ydyn nhw’n sicr hyd yn oed i bwy y gwnaethant bleidleisio.

Mae llai nag un o bob pump o bleidleiswyr dall yn gallu bwrw pleidlais yn annibynnol ac yn gyfrinachol o dan y system bresennol.

Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru)

Pan gyflwynwyd Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) yn y Senedd, yr oeddem yn falch o glywed am fwriad Llywodraeth Cymru i “wella hygyrchedd etholiadau datganoledig ar gyfer pleidleiswyr anabl.”

Fodd bynnag, daeth yn amlwg na fyddai’r Bil, a’r newidiadau a fyddai’n dod i rym o ganlyniad iddo, yn gwarantu pleidlais gyfrinachol ac annibynnol i bobl ddall ac â golwg rhannol.

Mae Llywodraeth Cymru yn awgrymu diwygio’r fframwaith presennol i adlewyrchu ‘gofyniad ehangach newydd i ddarparu offer o’r fath sy’n rhesymol ar gyfer galluogi neu ei gwneud yn haws i bobl anabl bleidleisio’n annibynnol’. Bydd hyn yn disodli’r gofyniad deddfwriaethol presennol i orsafoedd pleidleisio ddarparu dyfais ragnodedig i alluogi pobl ddall ac â golwg rhannol i bleidleisio’n annibynnol ac yn gyfrinachol. Yr ydym yn cydnabod bod y gwelliant yma yn creu cyfle ar gyfer arloesi a mabwysiadu technolegau newydd i leihau’r rhwystrau annerbyniol a wynebir gan bobl ddall ac â golwg rhannol yn ystod y broses bleidleisio. Serch hynny, bydd dileu gofyniad rhagnodol ynghylch pa ddyfeisiau cynorthwyol y mae'n rhaid darparu yn arwain at diogeliadau cyfreithiol gwannach ar gyfer pobl ddall ac â golwg rhannol.

Mae’r Bil hefyd yn cynnig gwneud hi’n ofynnol i Swyddogion Canlyniadau ymateb i angen lleol a darparu offer “rhesymol” ar gyfer pob gorsaf bleidleisio er mwyn cefnogi pleidleiswyr anabl. Mae RNIB yn bryderus iawn y bydd hyn caniatáu i Swyddogion Canlyniadau unigol beirniadu ar liwt eu hunain beth sy’n ‘rhesymol’ ac yn arwain at ganlyniadau niweidiol anfwriadol ac yn sicr yn arwain at loteri cod post o ran darparu dyfeisiau cynorthwyol.

Yr oeddem yn falch bod Adam Price AS wedi cyflwyno addasiad yn ystod trafodion cam 2 a fyddai'n gwneud darpariaeth ar gyfer gofyniad cyfreithiol i sicrhau bod datrysiad cyffyrddol a sain ar gael ym mhob gorsaf bleidleisio. Mae pobl ddall ac â golwg rhannol wedi dweud wrthym taw dyma’r unig ffordd i warantu bod ganddyn nhw bleidlais annibynnol a chyfrinachol. Mewn treial diweddar, yr oedd atebion pleidleisio hygyrch o'r fath yn galluogi 93 y cant o'r cyfranogwyr i bleidleisio'n annibynnol ac yn gyfrinachol.

Gyfle i gael gwared rhwystrau

Yr ydym yn hynod siomedig bod Llywodraeth Cymru wedi pleidleisio i wrthod yr addasiad hwn. Credwn fod y penderfyniad yn mynd yn groes i bopeth y mae Llywodraeth Cymru yn dweud ei bod yn anelu at gyflawni drwy’r Bil hwn. Yr ydym yn herio awgrymiad Llywodraeth Cymru y gallai hyn arwain at ‘gymhlethdod i weinyddwyr etholiadol’ ac ‘achosi dryswch i bleidleiswyr.’ Cyfrifoldeb statudol gweinyddwyr etholiadol yw galluogi pob dinesydd i bleidleisio’n annibynnol ac yn gyfrinachol ar sail sy’n gyfartal. Yr ydym ni’n siomedig gyda'r awgrymiad y dylid parhau i wrthod hawliau pobl anabl oherwydd y gallai achosi cymhlethdod i weinyddwyr etholiadol.

Rydym hefyd yn gwrthod yn gryf y ddadl y gallai’r gwelliannau hyn ‘leihau hyblygrwydd o ran diwallu anghenion pobl’. Hyblygrwydd ac amrywiad yn y ddarpariaeth o ddyfeisiadau cynorthwyol yw’r gwrthwyneb o’r hyn mae pobl ddall ac â golwg rhannol yn nodi wrthym sydd ei angen. Mae angen iddyn nhw gyrraedd eu gorsaf bleidleisio yn ddiogel gan wybod y bydd yr offer a'r gefnogaeth hanfodol sydd eu hangen bob amser ar gael. Fel y dywedwyd yn gynharach yn y llythyr hwn, mae yna ffyrdd profedig sy’n galluogi pobl ddall ac â golwg rhannol bleidleisio'n annibynnol ac yn gyfrinachol, ac mae'n rhaid gwarantu'r ffyrdd yma. Dylai hygyrchedd fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, ac yr oedd hwn yn gyfle a wastraffwyd ar gyfer newid pethau unwaith ac am byth.

Dychmygwch gyrraedd gorsaf bleidleisio, dim ond i ddarganfod nad ydych chi'n gallu bwrw'ch pleidlais oherwydd nad yw'r offer a'r gefnogaeth hanfodol sydd eu hangen arnoch chi ar gael. Os caiff Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) ei basio yn ei ffurf bresennol, yna bydd hyn yn bosibilrwydd go iawn i bob person dall neu â golwg rhannol yng Nghymru. Dros 150 o flynyddoedd ers i’r Ddeddf Pleidleisio gwarantu’r hawl i bleidlais gudd yn gyfreithiol, mae pobl ddall â golwg rhannol yn dal i gael eu gorfodi i rannu eu pleidlais ac yn gobeithio bod y person a ofynnwyd i bleidleisio ar ei ran wedi gwneud hynny. Mae hyn yn annerbyniol.

Mae’r Bil hwn yn gyfle i gael gwared ar y rhwystrau y mae pobl ddall â golwg rhannol yn hwynebu wrth bleidleisio a gwrthdroi 150 mlynedd o eithrio pobl o’r broses ddemocrataidd. Yr ydym yn annog i chi ailystyried a chymeradwyo diwygiadau sy'n gwarantu bydd datrysiad cyffyrddol a sain ar gael ym mhob gorsaf bleidleisio mewn etholiadau yn y dyfodol.

Cofion gorau,

Ansley Workman

Cyfarwyddwr, RNIB Cymru