Rhannwch Rywbeth Rhyfeddol
Rydym yn gwybod fod llawer ohonoch wedi bod yn adlewyrchu ar yr hyn sydd bwysicaf – teulu, ffrindiau a’r achosion sydd agosaf at ein calon.
Mae llawer wedi cael eu hatgoffa o werth cynllunio am y dyfodol er mwyn gofal am yr hyn yr ydym yn malio amdanynt fwyaf. Ar ôl ffrindiau a theulu, gall hyd yn oed swm bychan gael effaith fawr ar fywydau pobl ddall ac sydd â golwg rhannol yn y dyfodol.
Mae’n wythnos cofio elusen o’r 7fed i’r 13fed o Fedi, y cyfle perffaith i ystyried gadael rhywbeth gwych gan adael anrheg yn eich ewyllys.
Mae’r Wombles yn cael eu cofio’n wresog am y ffordd yr oeddynt yn cefnogi ei gilydd a’u cymuned ehangach, a'u hymrwymiad diflino i ofalu am y byd yr ydym yn byw ynddo.
A pa ffordd well sydd i adel ar eich hol byd gwell na drwy anrheg yn eich ewyllys? Unwaith yr ydych wedi gadael rhywbeth i’ch ffrindiau a’ch teulu?
Yn RNIB, allwn ni gynnig i chi'r cyfle i ysgrifennu neu ddiweddaru eich ewyllys am ddim, unai adref neu mewn swyddfa cyfreithiwr neu arlein. Mae dros traean o’m gwaith yn cael ei hariannu gan anrhegion mewn ewyllysau.
Felly dim ots pa mor fawr neu fychan, gall eich anrheg fod yn un sydd yn drawsnewidiol i rywun sydd yn ddall neu gyda golwg rhannol. I dawelu eich meddwl, mae ein holl bartneriaid sydd yn ysgrifennu ewyllysiau yn dilyn y rheolau diweddaraf gan y llywodraeth o ran pellhau cymdeithasol.