Rhaid i bleidlais gudd fod yn flaenoriaeth i Senedd nesaf y DU
Mae pleidleiswyr ddall ac â golwg rhannol yn dal i gael trafferth bwrw pleidlais yn ddirgel, wrth i RNIB Cymru annog ASau etholedig Cymru i ychwanegu eu llais at alwadau am adolygiad o weithdrefnau etholiadol.
Er mai’r Cynulliad Cenedlaethol bellach sy’n gyfrifol am etholiadau Cymru, mae pwerau dros etholiadau a refferenda ledled y DU yn parhau i fod yn neilltuedig i ASau San Steffan.
Dywedodd ein cyfarwyddwr RNIB Cymru Ansley Workman: “Fis Mai diwethaf, dyfarnodd yr Uchel Lys Cyfiawnder fod y darpariaethau presennol ar gyfer pleidleiswyr â cholled golwg yn “barodi o’r broses etholiadol” oherwydd eu bod yn methu â chaniatáu iddynt bleidleisio’n annibynnol ac yn gyfrinachol.
“Y ddwy gymhorthion pleidleisio sydd ar gael ar hyn o bryd - papur pleidleisio print mawr neu ddyfais bleidleisio gyffyrddadwy, templed plastig sy’n ffitio dros y papur pleidleisio. Ond mae hyn yn olygu bod angen i bobl â golwg eu tywys ble i roi eu croes. Dywedodd wyth deg y cant o'r bobl a arolygwyd gan RNIB a ddefnyddiodd ddyfais pleidleisio gyffyrddadwy eu bod yn pleidleisio gyda pherson arall.
“Nid yw’n dderbyniol y gall pobl adael eu gorsaf bleidleisio yn ansicr a ydyn nhw wedi pleidleisio’n gywir dros yr ymgeisydd o’u dewis, neu deimlo rheidrwydd i ofyn i rywun arall am help. Rydyn ni am i'r Senedd nesaf archwilio dewisiadau amgen ar frys fel opsiynau digidol diogel.
“Byddem hefyd yn annog yr holl brif bleidiau gwleidyddol i ofyn a yw eu maniffestos ar gael mewn fersiynau hygyrch fel sain, braille neu brint mawr.”
Wrth i’r etholiad agosau, ry ni yn annog ASau Cymru i hyrwyddo'r canlynol, ac i ddod yn Hyrwyddwyr RNIB os cânt eu hethol i'r Senedd:
- Sicrhewch fod cyflogaeth a cymorth yn gweithio i bobl ddall ac â golwg rhannol yng Nghymru trwy ddarparu hyfforddiant ymwybyddiaeth weledol ar gyfer staff y Ganolfan Waith, a sicrhau bod prosesau’r Adran Gwaith a Phensiynau yn deg ac yn hygyrch.
- Gwneud democratiaeth yn hygyrch i bawb trwy sicrhau bod pobl ddall ac â golwg rhannol yn gallu pleidleisio'n annibynnol ac yn breifat ym mhob etholiad a refferendwm ledled y DU.
- Gwarant y gall bod pobl ddall ac â golwg rhannol symud o gwmpas yn ddiogel ac yn annibynnol trwy gyflawni'r argymhellion ar gyfer dylunio strydoedd hygyrch.