Profiad rygbi nodedig Mona gyda’r Gweilch
Fe roddodd Mona Jethwa, Rheolwr Ymgysylltu â Rhanddeiliaid Trydydd Sector yr RNIB, gynnig ar rygbi VI gyda chynllun rygbi cymunedol diweddaraf y Gweilch yng Nghymru.
Er fy mod i’n byw yn un o gadarnleoedd y byd rygbi yng Nghymru, roeddwn i’n teimlo fel yr unig berson yn y wlad oedd heb brofi gwefr y gêm.
Yn fy arddegau, roeddwn i’n chwarae llawer o chwaraeon tîm. Roeddwn i'n hoff iawn o bêl fasged a phêl rwyd. Ond fe gefais i ddiagnosis o geratoconws a syndrom llygaid sych yn 18 oed, a gwaethygodd fy ngolwg drwy fy ugeiniau. Daeth chwaraeon pêl traddodiadol yn her ac fe roddais i’r gorau i chwarae, ond roeddwn i bob amser yn dyheu am ailddarganfod y teimlad hwnnw o berthyn a chyfeillgarwch.
Wedyn fe wnes i ddod ar draws gwahoddiad a allai newid popeth. Mae’r Gweilch, clwb rygbi enwog yng Nghymru, yn arloesi gyda rhaglen hyfforddi Rygbi VI gynhwysol. Mae mewn lleoliad cyfleus ychydig funudau o fy nghartref i, felly fe wnes i feddwl, ‘pam lai? Beth am i mi roi cynnig arni!’
Fe ymunodd fy ffrind Sally â mi, sy'n hoff iawn o rygbi ac yn ymwneud llawer â’r gamp yn lleol, a fy nghydweithiwr Gareth, chwaraewr rygbi VI profiadol gyda Rygbi Caerdydd. Fe gefais i wybod bod y cae yn Llandarsi, fel canolfan hyfforddi’r Gweilch sydd mor uchel eu parch, yn dir cysegredig.
Fe gefais i fy nghroesawu ar y cae gan Joe Gage, Cydlynydd Ymgysylltu Clwb y Gweilch. Fe wnaeth ei frwdfrydedd e dawelu fy nerfau i, gan roi sicrwydd i mi fy mod i’n aelod gwerthfawr o’r teulu rygbi cynhwysol yma. Fe wnaeth fy ofnau i am gael fy marnu am fy lefel ffitrwydd neu siâp fy nghorff ddiflannu yn llwyr. Doedd gen i ddim syniad fy mod i ar fin cychwyn ar siwrnai a fyddai'n newid fy marn i’n llwyr ac yn tanio angerdd newydd dros y gêm.
Fe gyflwynodd yr hyfforddwyr fi i egwyddorion craidd rygbi. Ar adegau roeddwn i'n cael anhawster ac yn drysu rygbi gyda phêl rwyd - unwaith roedd y bêl gen i, roeddwn i’n rhewi ac yn ceisio pasio'r bêl ymlaen, sydd ddim yn rhywbeth rydych chi'n ei wneud mewn rygbi! Roedd anogaeth a dealltwriaeth yr hyfforddwyr mor frwd. Gyda'u cefnogaeth nhw, roeddwn i’n baglu, yn dysgu ac fe ddois i o hyd i fy nhraed ar y tir newydd yma i mi.
Roedd ymrwymiad i gynhwysiant wrth wraidd y sesiwn hyfforddi. Fe ddefnyddiodd yr hyfforddwyr signalau clywadwy, gan weiddi ‘chwith’ neu ‘dde’ a chlapio’n uchel i’n helpu ni i ddeall symudiad a lleoliad y bêl. Ac nid dyna’r unig ymrwymiad ganddyn nhw chwaith. Roedd yr hyfforddwyr yn gwisgo sbectol efelychu, i geisio deall yr anawsterau gweledol rydyn ni’n eu hwynebu.
Yng nghanol y chwerthin, fe wnes i sgorio fy nghais cyntaf erioed! Roedd yn fuddugoliaeth bersonol i mi a oedd yn atseinio ymhell y tu hwnt i’r cae rygbi oherwydd lai nag awr cyn hynny, doeddwn i ddim hyd yn oed yn gwybod beth oedd cais!
Dyna beth sydd mor wych am gymryd rhan mewn chwaraeon, a’r hyn roeddwn i’n ei fethu pan oeddwn i ddim yn chwarae; yr ymdeimlad o gyflawni, rhannu buddugoliaethau, a chymaint o hwyl.
Sut brofiad oedd eich profiad chi?
Mae fy mhrofiad rygbi cyntaf i fel rhywun sydd â cholled golwg wedi bod yn drawsnewidiol. Mae wedi fy helpu i oresgyn y cyfyngiadau oedd wedi’u gosod gen i mewn gwirionedd ac a oedd yn fy rhwystro i rhag cofleidio chwaraeon. Roedd cael fy nghroesawu i’r gofod cynhwysol yma’n gatalydd ar gyfer ailddarganfod fy nghryfder mewnol i, fy ngwydnwch a fy ysbryd di-ildio.
Rydw i'n gobeithio y bydd fy mhrofiad i’n annog eraill y mae eu hamheuon nhw wedi taflu cysgod dros eu potensial i Weld Chwaraeon yn Wahanol. Mae yna gamp i bawb mewn gwirionedd.