Pobl ddall ac â golwg rhannol yn cael eu “hanghofio” wrth gyflwyno brechlyn COVID yng Nghymru
Ar ddechrau'r flwyddyn, gofynnwyd i Fwrdd Brechu COVID Llywodraeth Cymru a'r holl fyrddau iechyd ystyried dau beth wrth gyflwyno rhaglen frechu’r coronafeirws yng Nghymru:
- Bod yr holl wybodaeth am frechiadau, gan gynnwys llythyrau apwyntiadau, yn cael ei chyfleu mewn fformat hygyrch (fel print bras, sain, braille neu ddigidol) i bobl sydd angen hynny.
- Bod pobl ddall ac â golwg rhannol yn cael cynnig dewis lleoliad ar gyfer eu hapwyntiad brechu.
Rydym wedi parhau i ymgyrchu dros broses frechu hygyrch ers hynny. Yn anffodus, ychydig o gynnydd sydd wedi'i wneud. Mae hyn yn golygu bod pobl sydd wedi colli eu golwg ledled Cymru yn gorfod dibynnu ar eraill i'w galluogi i gael eu pigiad hanfodol. Mae eu hanghenion wedi cael eu hanghofio.
Mae pobl â cholled golwg wedi cysylltu â ni gan ddweud eu bod yn pryderu nad oes gwybodaeth hanfodol am y brechlyn ar gael mewn fformat sy'n gweddu orau iddynt. Mae eraill mewn ardaloedd gwledig wedi dweud bod apwyntiadau'n cael eu trefnu mewn canolfannau brechu sydd filltiroedd o’u cartref, gan wneud eu mynychu’n broses hynod anodd a llawn straen.
Mae gan Megan Price, o Aberdâr, aniridia a glawcoma. Cafodd wahoddiad i ganolfan frechu COVID yng Nghaerdydd ym mis Mawrth.
Dywedodd Megan: "Er bod fy mhrofiad cyffredinol gyda’r staff yn y ganolfan yn gadarnhaol iawn, roeddwn i’n teimlo'n rhwystredig am y diffyg gwybodaeth hygyrch am y brechlyn. Fe gynigiodd y derbynnydd daflen i mi, ond wedyn edrychodd ar fy ffon wen a dyfalu'n gywir na fyddwn i’n gallu ei darllen. Ond pan ofynnais i a oedd ganddi daflen ar gael mewn gwahanol fformat, dywedodd nad oedd.
"Rydw i dal yn flin. Pe bai fersiwn electronig wedi bod ar gael, fe fyddwn i wedi'i ddarllen. Yr egwyddor sy’n bwysig. Fe fydd llawer o bobl yn poeni'n fawr am eu brechlyn ac fe ddylen nhw allu darllen yr holl wybodaeth amdano. Rydw i wedi arfer cymaint â methu cael gwybodaeth hygyrch nawr fel fy mod i’n gadael i bethau fel hyn fynd yn aml, ond ni ddylai hynny ddigwydd. Rydw i wedi cael digon.”
Dywed Safonau Cymru Gyfan ar gyfer Gwybodaeth Hygyrch a Chyfathrebu gyda Phobl â Cholled Synhwyraidd, sydd wedi bod yn eu lle ers 2013, y dylai byrddau iechyd lleol gadw gwybodaeth am y fformatau cyfathrebu a ffafrir gan bobl ac y dylid cyfathrebu â hwy’n rheolaidd mewn ffordd sy’n gweithio iddynt.
Gall symud mewn amgylcheddau anghyfarwydd a theithio i lefydd newydd fod yn heriol iawn i bobl â cholled golwg, sy’n golygu ei bod yn llawer anoddach mynychu canolfan frechu dorfol. Mae hyn yn arbennig o broblemus i bobl sy'n byw mewn cymunedau gwledig mwy ynysig gyda llai o opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus.
Rydym wedi dweud wrth Lywodraeth Cymru a byrddau iechyd mai lleoliadau lleol, cyfarwydd, fel meddygfeydd lleol, fydd yn cael eu ffafrio fwy na thebyg gan y rhan fwyaf o bobl ddall ac â golwg rhannol.
Mae Alison Hamilton, o Lanbedr Pont Steffan, wedi'i chofrestru'n ddall. Gorfodwyd hi a'i gŵr Jeremy, sydd hefyd ag anabledd, i wneud siwrnai o 60 milltir i gyd i ganolfan frechu COVID yn Aberteifi.
Dywedodd Alison: "Fe gefais i lythyr am fy mrechlyn cyn fy ngŵr a doedd gen i ddim syniad sut roeddwn i’n mynd i fynychu canolfan mor bell i ffwrdd. Prin iawn yw’r bysiau yn yr ardal yma a ’fyddwn i ddim wedi gallu dod o hyd i fy ffordd o'r arosfan bysiau i'r ganolfan ar fy mhen fy hun. Roeddwn i'n gwybod y byddai'n rhaid i fy ngŵr fynd gyda mi, ond doedd e ddim eisiau gyrru mor bell â hynny.
"Fe wnes i ffonio'r ganolfan frechu, fy meddyg teulu a'r Bwrdd Iechyd sawl gwaith ac fe gefais i wybod nad oedd unrhyw beth y gallen’ nhw ei wneud. Fe wnaethon nhw ddweud nad oedd posib i mi gael y brechlyn gartref am nad ydw i’n gaeth i'r tŷ. Ar ôl mwy o alwadau, o'r diwedd llwyddais i drefnu brechiad ar yr un diwrnod â fy ngŵr. Fe wnaethon ni wario £30 ar gar i fynd â ni i'r canol a bydd rhaid i ni wneud yr un peth ar gyfer ein hail ddos.
"Roedd yr holl brofiad yn gymaint o drafferth ac yn rhwystredig iawn. Rydw i'n poeni am bobl ddall ac â golwg rhannol sy'n fwy agored i niwed na fi, a allai roi'r gorau iddi a pheidio â chael eu brechu oherwydd y problemau yma."
Mae'r straeon hyn yn peri gofid mawr i ni. Mae'n annerbyniol bod rhaid i bobl yn 2021 barhau i ddibynnu ar bobl eraill i gael gafael ar wybodaeth sylfaenol a gwasanaethau iechyd hanfodol. Dylai pobl sydd â cholled golwg dderbyn gwybodaeth mewn fformat sy'n gweithio iddynt hwy, fel hawl, a heb orfod brwydro.