Shop RNIB Cyfrannwch nawr

Pleidleiswyr dall yn cael eu hatal rhag pleidleisio yn gyfrinachol

Mae adroddiad Bwrw Pleidlais RNIB Cymru yn datgelu mai dim ond hanner y pleidleiswyr dall ac â golwg rhannol oedd yn fodlon â’u profiad pleidleisio yn yr Etholiad Cyffredinol eleni. Mae’r adroddiad hefyd yn dangos mai dim ond chwarter o bobl ddall (26 y cant) sy’n teimlo bod y system bresennol yn caniatáu iddyn nhw bleidleisio’n annibynnol ac yn gyfrinachol.Mae’r elusen yn annog Llywodraeth Cymru i sicrhau mai Etholiadau lleol a Senedd sydd ar ddod yw’r rhai mwyaf hygyrch hyd yn hyn i bobl ddall ac â golwg rhannol. Ar hyn o bryd mae RNIB Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i nodi a phrofi amrywiaeth o opsiynau pleidleisio sain a chyffyrddol. Mae'n hanfodol bod yr atebion hyn yn ofynnol yn gyfreithiol ym mhob gorsaf bleidleisio yn etholiadau Cymru yn y dyfodol.Dywedodd Cyfarwyddwr RNIB Cymru, Ansley Workman (ei/hi): “Mae gan bobl ddall ac â golwg rhannol yr un hawl â phawb arall i bleidleisio’n annibynnol ac yn gyfrinachol. Ac eto, mae ein hymchwil yn dangos eu bod yn cael eu hamddifadu o’r hawl hon.

Problemau gyda phleidleisio

“Mae pleidleisio yn brofiad gweledol ar hyn o bryd, ond does dim rhaid iddo fod. Mae yna atebion syml a chost-effeithiol sy'n gallu gwneud pleidleisio yn fwy hygyrch. Pe bai datrysiadau sain a chyffyrddol ar gael am ddim ym mhob gorsaf bleidleisio yng Nghymru, gallai pobl sydd â cholled golwg gael mynediad o’r diwedd i’w hawl ddemocrataidd i bleidleisio’n annibynnol.

“Yma yng Nghymru, mae gennym ni gyfle i sicrhau bod ein hetholiadau sydd ar ddod yw’r rhai mwyaf hygyrch eto i bobl ddall ac â golwg rhannol. Yr ydyn ni wedi ymrwymo i weithio gyda Llywodraeth Cymru i wireddu hyn.”

Mae adroddiad RNIB Cymru hefyd yn datgelu bod angen ar ddwy ran o dair o bleidleiswyr post dall (68 y cant) a phobl ddall a bleidleisiodd mewn gorsafoedd pleidleisio (66 y cant) i gael cymorth gan berson arall er mwyn pleidleisio.

Dywedodd Gareth Davies, 50, o Gaerdydd: “Fel rhywun sy’n byw gyda chyflwr dirywiol ar y llygaid, rwy’n gwybod wrth i mi barhau i golli fy ngolwg, bydda i hefyd yn colli fy ngallu i bleidleisio ar fy mhen fy hun ac yn gyfrinachol mewn etholiadau. Fel rhywun sy'n poeni'n fawr am y byd, mae hyn yn fy llenwi ag ofn.

Dywedodd Gareth Davies, 50, o Gaerdydd: “Fel rhywun sy’n byw gyda chyflwr dirywiol ar y llygaid, rwy’n gwybod wrth i mi barhau i golli fy ngolwg, bydda i hefyd yn colli fy ngallu i bleidleisio ar fy mhen fy hun ac yn gyfrinachol mewn etholiadau. Fel rhywun sy'n poeni'n fawr am y byd, mae hyn yn fy llenwi ag ofn.

“Mae’n wirion fy mod yn gallu byw rhan fwyaf o fy mywyd yn annibynnol, ond efallai na fyddaf yn gallu dweud fy nweud mewn etholiadau. Rwy’n mawr obeithio y gall Cymru arwain y ffordd a sicrhau bod gan bawb yr hawl i bleidleisio.”

Argymhellion

Mae RNIB Cymru eisiau i bobl ddall ac â golwg rhannol allu cyrchu gwybodaeth am yr etholiad ac ymgeiswyr yn annibynnol. W rth bleidleisio, mae angen iddynt allu - heb unrhyw gymorth:

  • Adolygu’r ymgeiswyr ar y papur pleidleisio.
  • Gallu dod o hyd i'r ymgeisydd o'u dewis a'i farcio'n ddibynadwy ar y papur pleidleisio swyddogol.
  • Bod mewn rheolaeth dros gyfrinachedd eu pleidlais.

Dylai pleidleiswyr sydd â cholled golwg allu gwneud hyn ym mhob gorsaf bleidleisio neu gyda phleidlais bost, yn ddiofyn, heb orfod hysbysu rhywun o'u gofynion ymlaen llaw.

Darllenwch yr adroddiad yma.