Mam o Gaerffili’n wynebu her Cyfeillion Marathon
Mae Emma Arnold o’r Hengoed, sy'n fam i ddau o blant, wedi cofrestru i redeg 26.2 milltir i gefnogi pobl ddall ac â golwg rhannol ledled Cymru.
Mae Emma, sy'n 33 oed, yn estyn am ei hesgidiau ymarfer ar gyfer ein digwyddiad codi arian Cyfeillion Marathon, sy'n galw ar bobl i baru gyda ffrind, partner, rhywun sy’n rhannu tŷ gyda nhw neu aelod o'r teulu a rhannu pellter marathon drwy gydol mis Mai.
Wedi'u hysbrydoli gan y ffordd y mae llawer o bobl â cholled golwg yn rhedeg gyda rhedwr tywys, gall y cyfranogwyr ddewis rhedeg, cerdded neu loncian y pellter yn eu hamser eu hunain ac ar eu cyflymder eu hunain.
Mae'r her yn cefnogi achos sy'n agos at galon Emma. 15 mlynedd yn ôl, dechreuodd sylwi ar smotiau duon yn ei llygad dde, a waethygodd yn raddol.
Yng Nghlinig Llygaid Ysbyty Athrofaol Cymru, dywedwyd wrth Emma ei bod wedi profi clot gwaed yng nghefn ei llygad, ac nad oedd posib achub ei golwg.
Dywedodd Emma: "Roedd yn drychinebus. Roeddwn i newydd gwblhau fy lefel A a phasio fy mhrawf gyrru, ac wedyn cafodd popeth ei droi wyneb i waered.
"Aeth pethau’n waeth byth hyd yn oed pan wnes i ddeffro un noson mewn poen difrifol. Cefais fy rhuthro i'r ysbyty lle dywedwyd wrthyf i bod y pwysedd yn fy llygad yn 58 – yr ystod arferol yw tua 20. Nid oes gennyf olwg o gwbl yn fy llygad dde erbyn hyn.
"Yn bendant fe es i drwy broses alaru. Roedd amseroedd tywyll iawn ac roeddwn i’n isel tu hwnt. Diolch byth bod gen i rwydwaith mor gefnogol o deulu a ffrindiau wnaeth fy helpu i drwodd.
"Fe wnes i hefyd ffonio Llinell Gymorth yr RNIB - fe wnaethon nhw anfon rhywun allan i siarad hefo fi ac fe helpodd hynny gymaint. Dyna pam rydw i'n ymgymryd â’r her Cyfeillion Marathon. Rydw i eisiau i fwy o bobl allu defnyddio'r un cymorth hanfodol."
Mae Emma yn rhedwr newydd a bydd yn rhedeg hanner milltir bob dydd drwy gydol mis Mai gyda'i ffrind a'i chydweithiwr Nadine Borja. Gyda'i gilydd maent yn gobeithio codi £150.
Rydym wrth ein bodd bod Emma a Nadine yn ymgymryd â'r her. Byddwn yn eu cefnogi bob cam o'r ffordd ac rydym yn dymuno pob lwc iddynt.