Hwre mawr i’n gwirfoddolwyr ni: blog Ansley
Mae ein byd ni wedi cael ei droi ben i waered yn ystod y misoedd diwethaf yma ac rydyn ni i gyd wedi gorfod addasu i ffyrdd gwahanol o wneud pethau. Ond un peth sydd heb newid yw ymroddiad ac angerdd ein gwirfoddolwyr ni. Mae eu hamser, eu brwdfrydedd, eu sgiliau a’u gwybodaeth wedi bod yn hanfodol er mwyn ein helpu ni i barhau i gefnogi’r gymuned ddall ac â golwg rhannol.
Mae rhai gwirfoddolwyr wedi bod yn eithriadol brysur ac wedi gallu rhoi mwy fyth o’u hamser ond nid yw eraill wedi gallu dal ati â’u gwaith arferol yn anffodus. Fe hoffwn i ddiolch i chi i gyd am eich cefnogaeth barhaus a dathlu beth rydych chi’n ei wneud yn ystod yr Wythnos Gwirfoddolwyr (Mehefin 1af-7fed).
Gwirfoddolwyr yw asgwrn cefn llawer o’n gwaith ni yn RNIB Cymru. Yn ystod y cyfyngiadau symud, mae’r gwaith yma wedi bod yn bwysicach nag erioed. O ymgyrchu i wasanaethau trawsgrifio, o roi cyngor am dechnoleg gynorthwyol i alwadau llesiant – mae gwirfoddolwyr wedi cael effaith anhygoel lle’r oedd yn cyfrif fwyaf.
Rydyn ni wedi ymgyrchu dros fformatau hygyrch fel bod pobl ddall ac â golwg rhannol yn gallu derbyn gwybodaeth am Covid-19 ac rydyn ni wedi ymgyrchu dros fynediad i slotiau siopa blaenoriaeth ar gyfer pobl â cholled golwg. Yn anffodus, rydyn ni hefyd wedi gorfod tynnu sylw at y rhagfarn mae pobl ddall ac â golwg rhannol yn ei wynebu o du’r rhai sydd ddim yn deall pa mor anodd mae cadw pellter cymdeithasol yn gallu bod i bobl â cholled golwg. Mae ein gwirfoddolwyr ni’n allweddol i’r gwaith yma.
Nid yw rhai pobl ddall ac â golwg rhannol wedi gadael y tŷ o gwbl yn ystod y cyfyngiadau symud oherwydd yr anhawster gyda chadw pellter cymdeithasol. Wrth i’r cyfyngiadau lacio, mae llawer yn dal i deimlo bod rhaid iddyn nhw aros dan do. I lawer o bobl, mae llyfrau llafar wedi bod yn allweddol. Mae hyn yn dangos pwysigrwydd gwaith parhaus ein gwasanaethau trawsgrifio yn y Gymraeg ac yn Saesneg. Mae trawsgrifio papurau newydd wedi bod yn hynod bwysig fel cyfrwng i ddarparu gwybodaeth hygyrch i bobl ddall ac â golwg rhannol. Am hyn rydyn ni’n diolch i wirfoddolwyr ein gwasanaeth trawsgrifio sydd wedi bod yn gweithio mor ddiflino.
Mae cael cyngor ar sut i ddefnyddio technoleg gynorthwyol wedi cael effaith fawr ar fywydau pobl hefyd. Diolch i’n gwirfoddolwyr ni, mae pobl ddall ac â golwg rhannol ledled Cymru’n dal i allu dysgu sut i ddefnyddio dyfeisiau ac apiau i gadw mewn cysylltiad.
Mae pobl sy’n rhoi o’u hamser i oresgyn y rhwystrau i bobl ddall ac â golwg rhannol yn ysbrydoledig. Mewn cyfnod sydd wedi teimlo fel un tywyll, mae gweld pobl yn parhau i helpu ei gilydd yn rhoi gobaith i mi.
Mae hwn wedi bod yn gyfnod anodd ond rydyn ni eisiau diolch i’n gwirfoddolwyr am eu holl waith anhygoel, ac rydyn ni’n gobeithio y gallwn ni barhau i’w cefnogi i ddatblygu a mwynhau beth mae’n nhw’n ei wneud yn y dyfodol.
Ni ddylai’r gymuned ddall ac â golwg rhannol sy’n teimlo ei bod yn gaeth i’r tŷ gael ei hanghofio wrth i ni fynd yn ôl i’r “normal newydd” a gyda’n gwirfoddolwyr anhygoel byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau nad yw’r gymuned yma’n cael ei gadael ar ôl.