Helpu i sicrhau bod brechiadau ar gael yn hwylus
Gyda brechiadau’r coronafeirws wedi dechrau cael eu rhoi yng Nghymru, rydym wedi bod yn tynnu sylw at y materion y mae angen i Lywodraeth Cymru eu hystyried er mwyn gwneud i'r gwaith o’u rhoi i bobl weithio i bobl ddall ac â golwg rhannol.
Ymgyrchoedd cyfathrebu
Yn rhy aml, rydym wedi profi ymgyrchoedd cyfathrebu torfol – am gyfyngiadau symud cychwynnol y coronafeirws a’r ymgyrch Cadwch Gymru'n Ddiogel ddiweddaraf – sydd wedi dosbarthu gwybodaeth hanfodol mewn ffyrdd anhygyrch. Mae hynny er gwaethaf amddiffyniadau cyfreithiol ar gyfer fformatau hygyrch.
Rydym wedi galw am sicrhau bod yr holl wybodaeth am y rhaglen frechu ar gael mewn fformatau hygyrch, fel print bras, e-bost, CD sain a braille, ar yr un pryd â phan anfonir llythyrau print safonol at y cyhoedd.
Hefyd mae angen darparu unrhyw ohebiaeth am apwyntiadau neu unrhyw wybodaeth am sgil-effeithiau posib, neu beth i'w wneud os byddwch yn dechrau teimlo'n sâl, gan gynnwys taflenni a roddir ar ddiwrnod y brechiad, mewn fformatau hygyrch. Er mwyn sicrhau bod mwy o bobl yn ymwybodol o sut i gael gafael ar y rhain, rydym wedi galw am gynnwys cyfarwyddyd print bras ar dop pob dogfen ysgrifenedig gyda manylion am sut i gael fformat arall.
Rydym hefyd wedi rhannu awgrymiadau i sicrhau bod posib darllen unrhyw gyfathrebu ar-lein yn hawdd gyda gosodiadau defnyddwyr safonol, meddalwedd chwyddo a darllenwyr sgrin.
Rydym wedi awgrymu, wrth gynllunio deunyddiau cyfathrebu, y dylent ddefnyddio data ar ddewisiadau cyfathrebu pobl ddall ac â golwg rhannol y dylai'r GIG eu cadw fel rhan o'u dyletswyddau o dan Safonau Cymru Gyfan ar gyfer Cyfathrebu Hygyrch a Gwybodaeth i Bobl â Cholled y Synhwyrau. Mae gan awdurdodau lleol hefyd gofrestri o bobl ddall ac â golwg rhannol yn eu hardaloedd lleol. Rydym yn argymell bod y rhain yn cael eu defnyddio i gysylltu â phobl yn uniongyrchol, i sicrhau eu bod wedi derbyn yr wybodaeth berthnasol, ac yn gallu cael mynediad at y brechlyn.
Bydd cael hyn yn iawn yn golygu y gall pobl ddall ac â golwg rhannol gael yr wybodaeth bwysig hon a chyfrannu at lwyddiant y rhaglen frechu. Nid yw'n dderbyniol tybio y gall person â cholled golwg ddibynnu ar berson sy’n gweld i ddarllen gwybodaeth ar ei ran, ac ni ddylai’r cyfrifoldeb am chwilio am y fformat gofynnol gael ei roi ar ysgwyddau’r unigolion. Diogelir yr hawl hon i dderbyn gwybodaeth iechyd hygyrch gan Safonau Cymru Gyfan a'r Ddeddf Cydraddoldeb.
Lleoliadau brechu
Mae angen i bobl allu mynychu apwyntiadau i dderbyn y brechiad. Gall teithio'n annibynnol i lefydd newydd fod yn anodd i lawer o bobl ddall ac â golwg rhannol, felly rydym wedi datgan yn glir bod angen i leoliadau brechu fod yn hygyrch, a bydd rhai pobl yn debygol o fod angen cludiant ychwanegol.
Rydym wedi tynnu sylw at ba mor bwysig yw trefnu lleoliadau'n gywir - gydag arwyddion clir, gwrthgyferbyniol mewn print bras, a, phan fo angen, dylai staff fod ar gael i ddarparu tywysydd neu i dywys person ar lafar. Bydd angen ystyried mannau aros ar gyfer cŵn tywys hefyd, ac unrhyw dywysydd fydd yn dod gyda pherson â cholled golwg. Rydym wedi awgrymu eu bod yn cynnal clinigau mewn mannau mae pobl yn gyfarwydd â hwy fel meddygfeydd lleol, neu fod staff iechyd yn trefnu ymweliadau â chartrefi pobl ddall ac â golwg rhannol os ydynt yn gofyn am hynny, er enghraifft i'r rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu
Rhestri blaenoriaeth ar gyfer cael y brechiad ac ystyriaethau cadw pellter cymdeithasol
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi bod yn rhannu rhestr flaenoriaeth ar gyfer y rhaglen frechu gychwynnol. Yn bennaf, mae oedolion hŷn tuag at frig y rhestr, a fydd yn cynnwys y rhan fwyaf o bobl ddall ac â golwg rhannol.
Fodd bynnag, gwnaethom hefyd godi'r heriau mae pobl ddall ac â golwg rhannol o oedran gweithio yn eu cael gyda chadw pellter cymdeithasol a'r effaith annheg mae hyn wedi'i chael ar fywyd o ddydd i ddydd, o gymharu â phobl eraill. Rhannwyd ystadegau a pholau gennym am hyn o'n hymgyrch Byd Wyneb i Waered, gan ofyn i’r effaith hon gael ei hystyried wrth feddwl am flaenoriaethu.
Am fwy o wybodaeth am frechiadau COVID-19 ewch i wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae gan y safle hwn nifer o nodweddion hygyrchedd gan gynnwys opsiynau darllenydd sgrin, chwyddwydr, ac addasu ffont a lliw.