Gŵr o Gaerdydd a’i naid ffydd dros elusen colled golwg
Mae Daniel Thomas, 32 oed o Gaerdydd, yn dweud na fydd y cyflwr ar ei lygaid yn ei atal wrth iddo baratoi at godi i’r entrychion yn barod ar gyfer naid deifio awyr noddedig.
Bydd Daniel yn cymryd rhan yn ein her codi arian Naid Fawr ym Maes Awyr Abertawe ddydd Sadwrn 28 Mawrth 2020.
Nod y Naid Fawr yw cael cymaint o bobl â phosib i neidio gyda’i gilydd yn ystod un penwythnos mewn deuddeg lleoliad ledled y DU. Bydd y neidwyr yn deifio i’r awyr gyda hyfforddwr cymwys o uchder o 10,000 o droedfeddi, gan syrthio’n rhydd am ryw 5,000 o droedfeddi cyn agor eu parasiwt a gleidio’n ôl i dir cadarn.
Mae Daniel, a gafodd ei eni gyda Microffthalmia a’i gofrestru’n ddall o fewn 24 awr i hynny, yn wirfoddolwr technoleg gydag RNIB Cymru ac mae’n cynnal grwpiau cymdeithasol yn rheolaidd ar gyfer pobl ddall ac â golwg rhannol yng Nghaerdydd drwy gyfrwng yr elusen. Penderfynodd herio’r Naid Fawr ar ôl clywed am yr her sbarduno fertigo gan aelod arall o’r grŵp yn 2019.
Mae Daniel yn gobeithio codi £1,000 gyda’i Naid Fawr. Mae eisoes wedi cyrraedd dros hanner ei darged drwy gynnal diwrnod codi arian Jiu Jitsu yn Nhrefforest i gefnogi ei naid.
Meddai Daniel: “’Sa i erioed wedi gwneud unrhyw beth fel hyn o’r blaen ond mae neidio allan o awyren yn swnio fel cymaint o hwyl felly doeddwn i ddim yn gallu dweud na! Rydw i’n disgwyl teimlo dipyn o adrenalin felly rydw i’n dysgu fy hun i gofio anadlu ac ymlacio. Rydw i’n meddwl y bydd fy hyfforddiant Jiu Jitsu yn ddefnyddiol gan ein bod ni’n ymarfer peidio â chynhyrfu o dan bwysau.
“’Sa i’n gallu aros am y Naid Fawr. Mae’n gyfle i mi herio fy hun a hefyd herio camsyniadau pobl am beth mae pobl ddall ac â golwg rhannol yn gallu ei wneud.”