Gwirfoddolwr o Gaerdydd yn gofyn i unigolion hoff o dechnoleg gynnig eu sgiliau yng Nghymru
Mae gwirfoddolwr profiadol gyda’r RNIB yn annog pobl o bob cwr o Gymru i helpu pobl ddall ac â golwg rhannol i gael defnyddio technoleg sy’n newid bywydau.
Mae Dickon Oliver, 71 oed o Wenfo, wedi bod yn wirfoddolwr Cymorth Technoleg gyda’r RNIB ers bron i 40 mlynedd. Ar ôl gwirfoddoli’n wreiddiol gyda’r gwasanaeth yn 1978 am rai blynyddoedd, dechreuodd wirfoddoli eto yn 2000. Nawr, mae Dickon, peiriannydd wedi ymddeol, yn cefnogi cais yr RNIB am i unigolion o Gymru sy’n hoff iawn o dechnoleg ymuno â’r tîm gwirfoddoli.
I lawer o bobl ddall ac â golwg rhannol, mae gallu defnyddio’r dyfeisiau, yr apiau a’r teclynnau gorau’n hanfodol i fyw bywydau annibynnol a llawn.
Fodd bynnag, gall fod yn anodd i bobl â cholled golwg gael mynediad at y dechnoleg a fydd yn eu helpu fwyaf. Mae cael cyfrifiadur, tabled neu ffôn clyfar newydd, neu e-ddarllenydd, yn barod i weithio yn heriol yn aml, yn enwedig i ddefnyddwyr hŷn.
Dywedodd Dickon: “Mae gwirfoddoli drwy roi Cymorth Technoleg i’r RNIB yn rhoi llawer iawn o foddhad i mi. Gan fod gen i gefndir technegol, roeddwn i’n meddwl y byddai’n braf defnyddio fy ngwybodaeth i helpu pobl eraill ac i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl ddall ac â golwg rhannol.
“Mae’r swydd wedi newid llawer wrth gwrs ers i mi ddechrau gwirfoddoli. Yn y 1970’au, y cyfan roedd angen i ni ei wneud oedd atgyweirio chwaraewyr tapiau’r Llyfrau Llafar, ond nawr mae amrywiaeth enfawr o dechnoleg ar gael i helpu pobl ddall ac â golwg rhannol i fyw bywydau annibynnol a llawn. Mae technoleg wedi datblygu cymaint ac mae wedi newid bywydau cymaint o bobl. Mae’n braf teimlo’n rhan fechan o’r jig-sô hwnnw drwy wirfoddoli.
“Rydw i’n gwirfoddoli rhwng dwy a thair awr yr wythnos ac yn cyfarfod cymaint o bobl ddiddorol drwy ymweld â chartrefi. Os oes gennych chi rywfaint o amser sbâr ac os ydych chi’n hoffi cyfarfod pobl, fe fyddwn i’n argymell cyfrannu yn sicr. Rydw i wedi bod yn wirfoddolwr Cymorth Technoleg ers blynyddoedd lawer nawr ac rydw i’n dal i fwynhau pob munud!”
Dywedodd Hannah Rowlatt, Cydlynydd Technoleg am Oes yr RNIB yng Nghymru: “Mae bod yn wirfoddolwr Cymorth Technoleg gyda’r RNIB yn ffordd wych o rannu eich sgiliau, cyfarfod pobl newydd a mwynhau ymdeimlad o bwrpas drwy wneud gwaith ystyrlon sy’n gwneud gwahaniaeth i gymaint o bobl ledled Cymru.
“Mae ein gwasanaethau technoleg yn seiliedig ar ddarpariaeth dan arweiniad gwirfoddolwyr ac rydyn ni bob amser yn chwilio am fwy o wirfoddolwyr technoleg i’n helpu ni i gydlynu a threfnu ein gwasanaethau. Os ydych chi’n credu ym mhŵer technoleg i wella lles a thrawsnewid bywydau ac os oes gennych chi ddiddordeb mewn gwirfoddoli, fe fydden ni wrth ein bodd yn eich croesawu chi i’r tîm.”