Gormod o bobl yn colli eu golwg yn ddiangen. Rhaid trawsnewid gofal llygaid fod yn flaenoriaeth
Dychmygwch ddeffro pob dydd yn poeni bod eich golwg wedi dirywio bellach fyth.
Rŵan dychmygwch gerdded lawr grisiau a ffeindio llythyr wrth y drws. Rydych yn ei agor ac yr ydych yn cael eich siomi i ddarganfod fod yr apwyntiad yn y clinig llygaid yr ydych wedi bod yn aros amdano ers wythnosau wedi ei ohirio unwaith eto.
Yr ydych yn poeni am faint o’ch golwg bydda chi wedi ei golli erbyn hynny, neu’r effaith all gael ar eich bywyd. Efallai caiff eich trwydded yrru ei alw dol. Efallai bydda chi yn cael trafferth yn ffeindio eich ffordd o amgylch eich cartref a’ch cymdogaeth. Efallai byddwch yn ofni byth gweld wyneb eich wyrion newydd.
Efallai bod y gofidion yma yn swnio’n eithafol, ond mae’r holl sefyllfaoedd a’r gofidion hyn yn rai mae pobl go iawn ar draws Cymru wedi dweud wrthym eu bod wedi eu hwynebu.
Pob dydd yng Nghymru mae pump o bobl yn cychwyn colli eu golwg. Mewn clinigau golwg ar draws y wlad mae apwyntiadau hanfodol yn cael eu canslo a’u gohirio yn gyson, yn achosi rhai cleifion i ddioddef colli eu golwg mewn modd na ellir ei ddadwneud. Buasai hyn yn gallu cael ei hosgoi gyda thriniaeth amserol.
Mae’r gwasanaeth gofal llygaid yn yr ysbyty yn cael trafferth wrth geisio ateb y galw a rhoi triniaeth cyson i gleifion. Mae tystiolaeth yn awgrymu bod 10% o gleifion newydd yn wynebu’r risg o golli eu golwg na ellid ei dadwneud tra bod 90% o gleifion sydd angen triniaeth ddilynol yn gwyebu’r risg yma. Mae oedi yn arwain at gormod o bobl yng Nghymru yn colli eu golwg yn ddiangen.
Mae tua 111,000 o bobl yn byw gyda cholled golwg yng Nghymru ar hyn o bryd. O drafferth cael mynediad i driniaeth a gwasanaethau, i ddiffyg cefnogaeth emosiynol ac ymarferol, mae pobl ddall ac sydd yn colli eu golwg yn wynebu heriau unigryw pob dydd.
Mae ymdeimladau o ynysu yn annerbyniol o uchel, bron hanner wedi profi problemau iechyd meddwl sylweddol, ac dim ond un mewn pedwar o bobl ddall/colli eu golwg o oedran gweithio sydd efo swydd.
Rydym yn ymwybodol bydd niferoedd pobl sydd yn colli eu golwg yn cynyddu yn sylweddol. Erbyn 2050, mae’r nifer o bobl sydd gyda diffyg golwg yn cael ei hamcangyfrif i ddyblu.
Serch hynny mae cynnydd yn y maes yma. Mae RNIB Cymru yn falch iawn mai Cymru yn 2019 oedd y wlad gyntaf yn y DU i sefydlu a rhoi ar waith Mesurau Gofal Llygaid. Mae hyn yn golygu blaenoriaethu cleifion offthalmoleg mewn modd sydd wedi ei seilio ar eu hanghenion clinigol.
Fodd bynnag rydym yn gwybod bod un mewn bob tri chlaf yn cael eu categoreiddio fel bod mewn “risg uchel” o golli eu golwg mewn modd na ellid ei dadwneud yn aros tu hwnt i'w dyddiad targed ar gyfer apwyntiad.
Gall hyn gael effaith enfawr ac yn aml trychinebus ar ansawdd bywyd pobl. Mae pobl sydd yn byw gyda diagnosis newydd o golled golwg yn aml yn ffeindio ei fod yn anodd mynd allan a maent yn cael trafferth parhau gyda'u swyddi, eu hobïau ac maent yn adrodd gostyngiad yn eu lles emosiynol.
Mae’r ffaith bod cymaint o’r achosion yma yn rai gellid eu hatal drwy weithredu’n amserol yn hollol annerbyniol. Rhaid i hyn newid ac mae’n hollol bosibl.
Mae llawer o gyfleoedd i’r Llywodraeth nesaf yng Nghymru i fod yn uchelgeisiol arwain y ffordd o ran cydraddoldeb iechyd llygaid yn y DU. Mae blaenoriaethu anghenion y rhai sydd y mwyaf agored i niwed yn hanfodol. Ni ddylai unrhyw un gwybebu colli eu golwg yn ddiangen oherwydd nad ydynt yn derbyn y gofal a’r driniaeth gywir o fewn yr amser cywir.
Gall unrhyw un sydd eisiau codi’r mater o apwyntiadau wedi eu canslo neu eu gohirio cysylltu ag RNIB Cymru ar 029 2082 8500 neu e-bostio [email protected] am ragor o wybodaeth. Rydym yn annog unrhyw un sydd yn gofidio am eu golwg i ymweld ag optometrydd neu A&E mewn argyfwng.
Ac os ydych chi yn byw gyda cholled golwg ac angen ychydig o gefnogaeth neu gyngor ychwanegol, rhowch alwad i linell gymorth yr RNIB ar 0303 123 9999.