Dyn o Donysguboriau yn galw am wahardd parcio ar y palmant ar ôl cael ei daro gan gar
Mae Steve Lawrence, dyn 62 oed o Donysguboriau ger Llantrisant, yn galw am roi diwedd ar barcio ar balmentydd ar ôl iddo gael ei daro gan gar ym mis Rhagfyr.
Roedd Steve yn cerdded adre o’r siop gyda’i neges ar hyd stryd breswyl pan ddaeth ar draws dau gar oedd wedi’u parcio ar y palmant. Mae Steve yn defnyddio ffon hir er mwyn gallu synhwyro rhwystrau wrth gerdded, ac fe geisiodd osgoi’r ddau gar.
Ond dechreuodd un o’r ceir yrru ar hyd y palmant cyn tynnu allan i’r ffordd, gan fwrw Steve yn ei fraich a difrodi ei ffon yn llwyr.
Meddai Steve: “Dw i’n ddall ers 2014, a dw i wedi cael profiadau gwael gyda cherbydau sydd wedi’u parcio ar balmentydd o’r blaen, ond hwn oedd y profiad gwaethaf. Dwi’n defnyddio fy ffon i ddilyn ymyl y palmant wrth gerdded ar hyd y stryd, felly mae’n anodd aros ar y palmant pan fydd ceir yn fy llwybr.
“Fe lwyddais i basio y tro yna, ond wedyn fe daniodd un o'r gyrwyr yr injan a tharo yn fy erbyn. Ymateb y gyrrwr oedd rhegi arna i a gyrru i ffwrdd – ac yn amlwg doedd dim modd i fi weld pa gar roedd e’n ei yrru na gweld rhif cofrestru’r car.”
Roedd Steve mewn poen ar ôl y digwyddiad ar 10 Rhagfyr 2019, ond wnaeth e ddim sylweddoli pa mor ddrwg roedd wedi anafu ei ysgwydd tan ar ôl y Nadolig.
Meddai Steve wedyn: “Es i at y meddyg yn y flwyddyn newydd, achos doedd y boen yn dal ddim wedi mynd. Fe wnaethon nhw fy nghyfeirio i at y ffisiotherapydd, dw i’n mynd unwaith yr wythnos ac yn gwneud ymarferion bob dydd. Dw i’n ymgyrchydd ac yn wirfoddolwr, a dw i wedi gorfod methu sawl apwyntiad a chyfarfod pwysig oherwydd yr anaf.
“Roedd y sefyllfa’n rhwystredig iawn, achos o’n i ddim yn gallu gwneud dim byd am y peth, a wnaeth y gyrrwr ddim ymddiheuro hyd yn oed. Dw i’n annibynnol iawn ac yn hyderus wrth gerdded ar ben fy hunan, ond fe wnaeth hyn fi’n nerfus ynghylch cerdded yn yr ardal yna am sbel. Dw i’n poeni y bydd pobl eraill sy’n ddall ac â golwg rhannol mewn sefyllfa debyg yn colli hyder ac yn llai tebygol o adael y tŷ o ganlyniad.
“Hoffwn i annog gyrwyr ledled Cymru i feddwl am yr effaith mae parcio ar y palmant yn ei chael ar bobl sydd â llai o symudedd, ac i gefnogi gwaharddiad ar barcio ar balmentydd ym mhob man o’r wlad.”
Dim ond yng nghanol Llundain mae parcio ar y palmant yn anghyfreithlon ar hyn o bryd, ond mae sawl Aelod Seneddol, Aelod Cynulliad a mudiadau ymgyrchu yn galw am waharddiad cenedlaethol. Ym mis Ionawr, dechreuodd Pwyllgor Deisebau’r Cynulliad ystyried deiseb ag 800 o enwau sy’n galw am waharddiad. Ers hynny, mae Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Lee Waters AC, wedi sefydlu Tasglu i edrych i mewn i’r mater ac ystyried atebion posib. Mae’r grŵp yn gobeithio adrodd ar eu canfyddiadau ym mis Mehefin.