Dr Gwyn Williams sy’n dweud wrth RNIB Cymru beth sy’n digwydd gydag apwyntiadau gofal llygaid yng Nghymru.
Mae Dr Gwyn Williams yn Offthalmolegydd Ymgynghorol sy’n gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ac mae’n Gynghorydd Addysgol Rhanbarthol Cymru ar gyfer y Coleg Offthalmoleg Brenhinol.
Yma mae’n dweud wrth RNIB Cymru beth sy’n digwydd gydag apwyntiadau gofal llygaid ledled Cymru oherwydd y newidiadau yn wyneb COVID-19.
“Mae Optometreg ac Offthalmoleg wedi bod yn cydweithredu’n agos, a hefyd Llywodraeth Cymru, er mwyn lleihau’r risgiau i gleifion gofal llygaid.
Mae dwy risg:
- Dod i’r ysbyty a chael haint y coronafeirws efallai, neu ledaenu’r haint, a;
- Niwed parhaol i iechyd y llygaid am nad ydynt wedi bod yn yr ysbyty.
Rydyn ni wedi bod yn cydweithio i benderfynu pwy sy’n gleifion brys sydd angen dod i’r ysbyty a sut gallwn ni wneud pethau’n fwy diogel iddynt.
Mae’r ymgynghorwyr yn mynd drwy nodiadau’r cleifion i gyd sydd ag apwyntiad, er mwyn penderfynu pwy sydd angen dod i’r ysbyty a pha apwyntiadau ellir eu gohirio yn ddiogel. Mae gennym ni fyddin o nyrsys ac ysgrifenyddion yn ffonio’r cleifion i gyd ac yn rhoi gwybod iddynt dros y ffôn pryd mae eu hapwyntiad.
Bydd y cleifion yn gweld newid o gymharu â’r clinig llygaid gorlawn arferol. Mae nifer y cleifion sy’n dod i’r clinigau’n llawer is nag arfer. Mae llawer o apwyntiadau wedi cael eu gohirio tan ar ôl yr argyfwng hwn.
Mae trefniadau arbennig wedi cael eu gwneud ar gyfer y cleifion sydd angen dod i mewn – er enghraifft, pobl sydd â dirywiad macwlaidd gwlyb.
Mae’r rhain yn cynnwys cadw pellter corfforol rhwng cleifion yn y clinig, offer gwarchodol personol i staff, glanhau’r offer a’r ffaith mai dim ond y claf sy’n dod i’r apwyntiad yn y rhan fwyaf o achosion. Nid yw perthnasau, ffrindiau na phobl eraill yn cael dod i’r adran oni bai fod y claf angen cymorth.
Hefyd, mae pob practis Optometrig wedi bod yn penderfynu pwy sy’n cael ymweld â hwy, gydag archwiliadau a diweddariadau sbectol arferol yn cael eu gohirio tan ar ôl i’r argyfwng hwn ddod i ben. Mae Optometryddion yn gyswllt hanfodol yn y ddolen gofalu am lygaid. Mae sawl practis Optometreg ar agor o hyd i ddelio ag argyfyngau llygaid ac i gysylltu cleifion ag ysbytai pan fo angen.
Os bydd rhywun yn datblygu pryder newydd am ei lygaid neu ei olwg, mae’r system argyfyngau llygaid a’r system frys yn gweithredu fel arfer o hyd. Mae gan bob ysbyty glinig argyfwng llygaid. Peidiwch â bod ag ofn gofyn am help os oes arnoch chi ei angen.
Efallai bod pobl yn bryderus am brinder meddyginiaeth ond does dim angen poeni’n ddiangen ar hyn o bryd. Mae’n annhebygol iawn y bydd y cyflenwadau’n dod i ben.
Mae hwn yn gyfnod digynsail ond, fel mae’r slogan cyfarwydd yn ei ddweud, "Peidio â Chynhyrfu a Dal Ati" sy’n bwysig.”