Diweddariad ar Ymgyrch Siopa Hygyrch yr RNIB – Blog Ansley
Mae pandemig y coronafeirws wedi bod yn gyfnod dryslyd i bawb yn RNIB Cymru. Ond mae ymyl arian i bob cwmwl.
Mae wedi ein gorfodi ni i addasu’n gyflym iawn i ffyrdd newydd o weithio, gan adlewyrchu’r blaenoriaethau a’r anghenion sy’n newid yn ein cymuned ni. Gyda hynny rydyn ni wedi gweld llwyddiannau, methiannau ac, yn bwysicach na dim, gwybodaeth a fydd yn aros gyda ni ymhell wedi i’r pandemig yma fynd heibio.
Drwy wneud yn siŵr ein bod yn gwrando’n astud ar beth oedd y gymuned ddall ac â golwg rhannol yn ei ddweud wrthym ni yn ystod wythnosau cyntaf y cyfyngiadau symud, roeddem yn gallu canfod y problemau pwysicaf i chi, a gweithredu’n gyflym er mwyn ymateb.
Drwy gasglu gwybodaeth amser real ddyddiol o’n Llinell Gymorth, cyfryngau cymdeithasol, arolygon a galwadau lles, daeth yn glir mai’r broblem fawr i lawer o bobl ledled y DU oedd gallu siopa am fwyd.
Roedd llawer ohonoch chi’n cael anhawster mynd i archfarchnadoedd yn ystod y cyfyngiadau symud. Roedd y slotiau siopa ar-lein yn llawn am wythnosau ac nid oedd y rhai’n byw â cholled golwg yn cael eu hystyried fel grŵp blaenoriaeth ar gyfer mynediad.
Profodd rhai pobl ddiffyg dealltwriaeth gan gwsmeriaid eraill a staff archfarchnadoedd am fethu cadw at y rheolau newydd. Roedd rhai’n poeni na fyddent yn gallu llenwi eu hoergelloedd o gwbl.
O ganlyniad, daeth mynediad i siopau’n ymgyrch flaenoriaeth gennym ni. Ledled y DU, fe fuom yn gweithio gydag elusennau eraill y sector colled golwg ar ddeiseb, gan bwyso am i’r pedair llywodraeth genedlaethol a’r archfarchnadoedd sicrhau bod pobl â cholled golwg yn cael eu hystyried fel grŵp blaenoriaeth ar gyfer cael siopa ar-lein. Buom yn gweithio gyda’n cymuned i sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed.
Mae’r ymgyrch wedi cael rhywfaint o lwyddiant eisoes. Cawsom sylw eang ar y cyfryngau yng Nghymru ac ar draws y pedair gwlad gyda phobl ddall ac â golwg rhannol yn rhannu eu profiadau.
Rydyn ni wedi codi’r mater sawl gwaith gyda’r Llywodraeth ac yn y Senedd. Yn bwysicach na dim, rydyn ni wedi dysgu cymaint am ein cymuned.
Hyd yma, fodd bynnag, nid yw Llywodraeth Cymru wedi ymyrryd i flaenoriaethu cwsmeriaid sydd â cholled golwg. O ganlyniad, rydyn ni wedi ehangu ein cwmpas.
Rydyn ni’n gweithio yn awr gydag archfarchnadoedd ledled y DU er mwyn datblygu arweiniad a chefnogaeth er mwyn iddynt ddeall anghenion eu cwsmeriaid. Rydyn ni wedi cael ymatebion positif gan rai archfarchnadoedd a byddwn yn parhau i bwyso am hyn gyda manwerthwyr eraill.