Digwyddiad yr RNIB i nodi blwyddyn o’r prosiect Ffrindiau Golwg
Mae'r rhan fwyaf ohonom ni eisoes yn gwybod y gall ein golwg newid a gwaethygu gydag oedran. Ond faint ohonom ni sy'n gwybod sut i adnabod arwyddion colled golwg a chynnig y math cywir o gefnogaeth?
Mae RNIB Cymru yn gwahodd gweithwyr proffesiynol ym maes tai a gofal i drafodaeth banel a fydd yn arddangos gwaith ei brosiect Ffrindiau Golwg, menter hyfforddi newydd gyffrous sy'n cynnig dealltwriaeth fanwl o anghenion pobl hŷn sydd â cholled golwg.
Cynhelir y drafodaeth banel ar-lein ar Fehefin 28. Mae'n gyfle i gael gwybod am becyn adnoddau a phecyn hyfforddi Ffrindiau Golwg, clywed adborth gan gyfranogwyr, a chael cipolwg gwerthfawr ar ganfyddiadau'r gwerthusiad allanol cyntaf o'r fenter ers ei sefydlu y llynedd.
Cyflwynir yr hyfforddiant a ariennir gan Lywodraeth Cymru mewn pum sesiwn awr unwaith neu ddwywaith yr wythnos. Mae wedi'i deilwra'n ofalus i helpu pobl i adnabod colled golwg, gofyn am help, gwella lles, a grymuso pobl hŷn i fod yn fwy annibynnol. Mae'r hyfforddiant hefyd yn cynnig dealltwriaeth o sut gall newidiadau bach wella gofal a chefnogaeth.
Mae RNIB Cymru eisoes wedi darparu hyfforddiant Ffrindiau Golwg yn llwyddiannus i’w bartneriaid yn Trivallis a Chyngor Caerdydd.
Dywedodd Christopher Thomas, Cydlynydd Diogelu a Safonau Gwasanaeth Trivallis: "Mae ein gwaith ni gyda'r prosiect Ffrindiau Golwg wedi helpu i gadarnhau ac adeiladu ar y gwaith rydyn ni wedi'i wneud gyda Visibly Better Standards yr RNIB dros y blynyddoedd. Roedd yr hyfforddiant yn gynhwysfawr ac yn taflu llawer o oleuni ac mae wedi rhoi'r sgiliau a'r wybodaeth hanfodol sydd eu hangen ar ein tîm i gefnogi ein cleientiaid sydd â cholled golwg yn y ffordd orau."