"Comedi wedi newid fy mywyd i": Tafsila Khan yn adrodd ei stori stand-yp
Ddwy flynedd yn ôl, ’fyddai ymgyrchydd ar ran RNIB Cymru, Tafsila Khan, ddim wedi gallu dychmygu ei hun ar lwyfan. Roedd pobl yn dweud wrthi o hyd bod ganddi dalent a ffraethineb ond doedd hi ddim yn gweld ei hun fel perfformwraig.
Ond er hynny, ym mis Mehefin 2018, roedd yn sefyll o flaen cynulleidfa o 50 o bobl yn dweud jôcs. Er mawr syndod iddi, roedd yn teimlo’n gwbl naturiol. Dyma pryd sylweddolodd Tafsila bod comedi yn rhywbeth yr oedd wedi’i geni i’w wneud, ac y gallai newid ei bywyd hefyd.
Cafodd Tafsila, 36 oed, ei geni gyda chlefyd etifeddol, Dystroffi Ffyn Côn, ac mae wedi bod yn ddall ers ei geni. Yn 2018, cofrestrodd ar gyfer Gweld yr Ochr Ddoniol gan yr RNIB, cwrs deuddydd sy’n addysgu pobl ddall ac â golwg rhannol i greu comedi stand-yp, gyda pherfformiad ar y diwedd.
Er bod Tafsila yn nerfus i ddechrau, gwelodd fod comedi’n rhoi hyder newydd iddi. Gydag arweiniad gan y comedïwr enwog Georgie Morrell, ysgrifennodd a pherfformiodd ddarn hynod ddoniol am golli golwg a bod yn fam.
Ers hynny mae wedi perfformio ei stand-yp mewn theatrau a digwyddiadau codi arian ledled y wlad, gan ennill canmoliaeth am ei ffraethineb a’i chyflwyniad ble bynnag mae’n mynd.
Dywedodd Tafsila: “Rydw i wastad wedi defnyddio comedi i wneud pobl eraill yn gyfforddus gyda fy ngholled golwg, felly roedd yn hawdd creu stand-yp. Rydw i wedi adrodd straeon am brofiadau doniol sydd wedi digwydd i mi drwy gydol fy mywyd i dorri’r iâ gyda phobl newydd sydd heb gyfarfod unrhyw un â cholled golwg o’r blaen. Mae’n gwneud iddyn nhw deimlo’n gyfforddus ac yn rhoi ar ddeall iddyn nhw bod posib iddyn nhw siarad gyda fi a chael hwyl.
“Ond ’wnes i erioed feddwl y gallwn i fynd ar lwyfan a dweud jôcs, felly pan wnaeth fy ffrind i awgrymu ’mod i’n cofrestru, roeddwn i’n ansicr. Er fy mhryderon, fe benderfynais i fynd amdani beth bynnag, ac rydw i mor falch o hynny.
“Roedd y cwrs yn anhygoel ac yn broses ddysgu gyflym iawn gyda Georgie yn rhoi llawer iawn o gyngor. Roedd yn neis cyfarfod pobl eraill oedd yn yr un cwch â fi a rhannu profiadau i ddylanwadu ar ein stand-yp ni. Ac roedd perfformio’n rhoi cymaint o wefr! Roedd yn teimlo mor iawn i fod ar lwyfan a gwneud i bobl chwerthin. Mewn ffordd, mae colli fy ngolwg i’n helpu oherwydd dydw i ddim yn gallu gweld y gynulleidfa, felly dydyn nhw ddim yn codi ofn arna’ i.
“Roeddwn i’n teimlo ’mod i wir wedi cyflawni rhywbeth. Mae Gweld yr Ochr Ddoniol wedi fy ngwneud i’n berson wnaiff roi cynnig ar unrhyw beth unwaith, heb ofni. Mae’n gymaint mwy na gweithdy comedi. Mae wedi helpu fy iechyd a fy lles i ac wedi agor cymaint o ddrysau. Dyma’r peth gorau rydw i wedi’i wneud i mi fy hun.”
Roedd gweithdai Gweld yr Ochr Ddoniol wedi’u trefnu yn wreiddiol ar gyfer eu cynnal yng Nghaerdydd fis Mehefin eleni, ond maent wedi cael eu gohirio hyd nes ceir rhybudd pellach. Er hynny, mae’n bosib ymgeisio am le yn y gweithdai nawr. Rhaid i’r ymgeiswyr fod yn ddall neu â golwg rhannol, yn 16 oed neu’n hŷn ac yn byw yn y Deyrnas Unedig.
Os hoffech chi gymryd rhan yn Gweld yr Ochr Ddoniol, y cyfan sydd raid i chi ei wneud yw dweud wrthym pam rydych chi eisiau cymryd rhan a rhannu eich jôc ddoniolaf gyda ni. I wneud cais, cysylltwch â 0303 1234 555 neu anfonwch e-bost i: [email protected].