Cefnogwr pêl droed ifanc yn ergydio 26,000 o giciau cosb i gefnogi RNIB Cymru
Mae Tabitha Ryan, 12 oed, o Ferthyr, yn cwblhau 26,000 o giciau cosb a 26,000 o keepy-uppies yn ei gardd gefn fel rhan o’r her codi arian 2.6 genedlaethol.
Mae Tabs wedi gwirioni ar bêl droed byth ers i’w rhieni fynd â hi i glwb y Little Kickers yn blentyn bach. Erbyn hyn mae hi’n chwarae i sgwad dan 13 oed merched Tredegar fel chwaraewr canol cae yn ymosod a streicar i fyny yn y blaen.
Mae ei mam, Ellen, yn Swyddog Cyswllt Clinig Llygaid ar gyfer RNIB Cymru ym Mhowys. Drwy ei gwaith, datblygodd Tabs ddiddordeb mewn pêl droed ar gyfer pobl â cholled golwg ac mae’n gobeithio y bydd yr arian y bydd yn ei godi’n helpu i gefnogi’r gêm yng Nghymru.
Mae Tabs wedi cwblhau 7,000 o keepy-uppies eisoes a 5,000 o giciau cosb. Mae hi chwarter y ffordd at gyrraedd ei tharged o godi £1,000.
Lansiwyd yr Her 2.6 ddydd Sul 26 Ebrill – dyddiad gwreiddiol Marathon Llundain 2020, digwyddiad codi arian undydd blynyddol mwyaf y byd. Mae’r her yn gofyn i bobl gwblhau gweithgaredd codi arian o’u dewis sy’n cynnwys y rhifau 2.6 neu 26.
Hyd yma mae pobl ymroddedig sydd wedi bod yn codi arian i Dîm yr RNIB wedi codi £15,000 ar gyfer yr elusen – cyflawniad anhygoel!
Dywedodd mam Tabs, Ellen: “Mae Tabs wedi bod wrth ei bodd gyda phêl droed er pan oedd hi’n fach. Mae ei thad a fi’n hoff iawn o’r gêm ac roeddwn i’n arfer chwarae hefyd. Rydyn ni’n galw ein lolfa ni’n Wembley oherwydd mae hi bob amser yn cicio pêl hyd y lle.
“Rydw i mor falch ohoni am wynebu her mor fawr. Fe wnes i grybwyll y peth wrthi ar ôl clywed amdano yn y gwaith ac fe wnaeth hi benderfynu cymryd rhan a gosod nodau iddi hi ei hun. Mae’n ceisio gwneud 200 o giciau cosb a keepy-uppies bob dydd ac mae wedi gwneud yn dda iawn yn glynu wrth yr her. Mae’n ffordd wych i’w chadw hi’n brysur yn ystod y cyfyngiadau symud. Mae pob sesiwn pêl droed wedi’i ganslo ac mae hi wir yn colli hynny, felly mae hwn yn beth da i gymryd eu lle.
“Mae Tabs yn teimlo’n gryf am gefnogi’r gymuned ddall ac â golwg rhannol, ac yn enwedig pêl droed i bobl â cholled golwg. Rydyn ni’n falch o fod yn codi ymwybyddiaeth ac arian ar gyfer achos mor dda.”
Dywedodd Ansley Workman, Cyfarwyddwr RNIB Cymru: “Rydyn ni’n hynod falch bod Tabs wedi ymrwymo i ymdrech mor anhygoel i gefnogi’r RNIB. Os oes unrhyw un yn chwilio am ffordd o helpu i godi arian ar gyfer yr RNIB, mae’r Her 2.6 yn ffordd hwyliog a hygyrch i gymryd rhan a gwneud byd o wahaniaeth. Gall unrhyw un gymryd rhan ac mae’r posibiliadau wir yn ddiddiwedd.”