Staying fit and well in lockdown: Gareth’s blog
Mae gan Gareth Davies o Gaerdydd retinitis pigmentosa ac mae wedi creu trefn ymarfer a lles foreol i ymdopi â bywyd o dan y cyfyngiadau presennol.
“Rydw i’n gweithio i’r RNIB ac wedi gorfod addasu i weithio o gartref. Rydw i’n egnïol iawn fel arfer ac wrth fy modd yn chwarae rygbi i bobl â cholled golwg, i gael manteision meddyliol a chorfforol. Dyma pam rydw i wedi datblygu trefn foreol sy’n canolbwyntio ar les emosiynol a hefyd ffitrwydd.
“Rydw i’n dechrau’r diwrnod drwy gofnodi beth sydd ar fy meddwl i a beth rydw i eisiau ei gyflawni y diwrnod hwnnw. Mae’n helpu i roi ffocws i mi. Wedyn rydw i’n myfyrio am hyd at 20 munud. Mae teimlo ychydig o lonyddwch a thawelwch yn y bore’n fy mharatoi i ar gyfer y diwrnod.
“Rydw i’n ymarfer tua’r un pryd bob bore fel arfer ond yn newid y gweithgareddau. Weithiau, byddaf yn rhedeg pellter hir o amgylch fy mharc lleol – gan gadw pellter iach oddi wrth redwyr eraill wrth gwrs! Mae ffrind i mi’n hyfforddwr personol ac mae wedi bod yn ffrydio ymarferion HIIT (Ymarfer Saib Dwysedd Uchel) am 20 munud yn fyw ar Facebook, sy’n siŵr o wneud i mi chwysu. Hefyd mae gen i bwysau gartref, sy’n llesol ar gyfer cryfder a siapio’r corff.
“Weithiau rydw i angen gwneud rhywbeth sy’n fy helpu i ymlacio mwy. Mae cymaint o fideos ioga ar YouTube, am ddim ac yn grêt i leddfu pryder a gwella ystwythder. Rydw i hefyd yn mwynhau cerdded drwy’r goedwig a gwrando ar gân yr adar. Mae’n gwneud byd o les i fy iechyd meddwl i.
“Rydw i’n ceisio gwneud rhyw fath o weithgarwch corfforol chwe diwrnod yr wythnos. Unwaith rydych chi’n cael patrwm, rydych chi’n sylwi eich bod mewn hwyliau llawer gwell. Mae’n gwneud i chi deimlo bod posib i chi gyflawni unrhyw beth.
“Mae maeth yn bwysig iawn hefyd – rydw i’n canolbwyntio llawer ar hynny. Rydw i’n bwyta deiet seiliedig ar blanhigion ac mae’r cyfyngiadau yma wedi gwneud i mi sylweddoli y gallwch chi greu prydau maethlon blasus ac iach gyda rhai cynhwysion sylfaenol allweddol fel ffacbys, llysiau ffres a sbeisys. Nawr yw’r amser i fentro bod yn greadigol yn y gegin!
“Mae’n gallu bod yn anodd gwybod sut i ddechrau ymarfer wrth fyw gyda cholled golwg. Y peth pwysicaf yw blaenoriaethu eich diogelwch eich hun. Dechreuwch yn araf a chymryd amser wrth ddechrau ar drefn ffitrwydd newydd – peidiwch â gwthio eich hun ymhellach na’ch ffiniau. Mae llawer o ymarferion diogel iawn y gallwch chi eu gwneud gyda phwysau eich corff eich hun, fel ymarferion eistedd i fyny, pwyso i fyny a chyrcydu.
“Y rhan anoddaf o unrhyw siwrnai ffitrwydd yw dechrau arni, ond ar ôl i chi wneud eich ymarfer cyntaf, fe fyddwch chi’n teimlo’n wych. Gwthiwch eich hun, gwthio’r ffiniau. Rhowch amser i ddod o hyd i rywbeth rydych chi’n ei fwynhau ac sy’n gweithio i chi.”