Blog gan Gyfarwyddwr RNIB Cymru, Ansley Workman
Fel Cyfarwyddwr RNIB Cymru hoffwn i roi sicrwydd i’r gymuned ddall ac sydd wedi colli eu golwg a’u cefnogwyr bod yr RNIB yn parhau i ddarparu gwasanaethau a chefnogaeth i bobl sydd wedi colli eu golwg ar draws y DU ac yng Nghymru.
Mae ein gwasanaeth Cyngor Colled Golwg yn llinell gymorth dros y ffôn ac ar-lein ar wefan yr RNIB sydd yn darparu gwybodaeth a chanllawiau ymarferol yn ogystal â chefnogaeth emosiynol.
Mae ein gwefan yn cael ei ddiweddaru’n gyson fel yr ydym ni yn cael gwybodaeth newydd wrth i ni newid ein gwasanaethau i wynebu heriau’r byd sydd ohoni.
Ar hyn o bryd mae pobl yn teimlo yn ynysig iawn. Gennym ni sawl grŵp wedi ei sefydlu yng Nghymru eisoes ac mae’r niferoedd yn cynyddu wrth i bobl gysylltu â ni ac mae grwpiau fel hyn ar draws y DU. Mae ein grwpiau Sgwrsio a Chefnogi yn ddull gwych i gysylltu â phobl eraill, ar gyfer cefnogaeth un i un ac i ddarganfod sut mae pobl eraill yn ymdopi. Yng Nghymru gennym ni grwpiau penodol i siaradwyr Cymraeg.
Mae hefyd yn bwysig nodi ein bod yn gweithio ar y cyd - yn ogystal â herio Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau bod pobl ac sydd wedi colli eu golwg wedi cael y wybodaeth sydd ei hangen arnynt mewn fformat hygyrch. Rydym hefyd yn codi llais ynglŷn â materion pwysig y dydd mae pobl yn sôn wrthym ni am eu cylch, o sut i hunain ynysu mewn modd diogel i sut mae cael eich tywys, ond hefyd ynghylch sut i gael mynediad i fwyd a meddyginiaethau.
Mae RNIB Cymru yn gweithio’n agos iawn gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru er mwyn sicrhau allwn ni gael y negeseuon hanfodol yma mewn ffurfiau hygyrch.
Rhif ein llinell gymorth yw 0303 123 9999. Rydym wedi ymestyn ein horiau agor o 8yb i 8yh ar ddyddiau’r wythnos o 9yb i 5yh ar ddyddiau Sadwrn.
Cysylltwch â ni os gwelwch yn dda, peidiwch â theimlo fel eich bod ar ben eich hunain. Yn sicr mae digon o bethau allwn ni eu gwneud o ran darparu cyngor, gwybodaeth a chefnogaeth.