Blog Cwpan Rygbi'r Byd Gareth - rhan 2
Mae guru rygbi RNIB Cymru, Gareth Davies, yn un o brif chwaraewyr tîm rygbi bobl â cholled golwg yn y DU sydd ar hyn o bryd yn cystadlu yng Nghwpan y Byd yn Japan. Mae'n diweddaru ni am anturiaethau'r tîm.
“Helo, Gareth yma gyda rhan dau o fy mlog Cwpan Rygbi'r Byd!
Ar ôl ein buddugoliaeth dros dîm Japan yn Stadiwm Rygbi Kumayaga, mae'r tîm a minnau wedi bod yn dathlu trwy archwilio dinas ryfeddol Tokyo. Mae yna lawer o wahaniaethau rhwng yma a chartref, ond un peth sy'n wirioneddol sefyll allan i bob un ohonom yw'r palmant cyffyrddol anhygoel.
Mae'n llythrennol ym mhobman ac mae'n ganolog i'r mwyafrif o lwybrau cerdded a phalmentydd, felly dim ots ble rydych chi'n mynd ry chi'n gwybod yn union ble i chi. Mae'n gwneud gwahaniaeth enfawr wrth gerdded trwy strydoedd prysur ac ardaloedd dan do fel gorsaf reilffordd Shinjuku. Dyma’r orsaf reilffordd brysuraf yn y byd gyda bron i 3 miliwn o bobl yn pasio drwyddi bob dydd, felly mae’n brysur iawn i bobl ddall ac â golwg rhannol!
Fodd bynnag, mae'r palmant cyffyrddol yn ei gwneud hi'n haws llywio'r anhrefn. Rhyfeddodd un aelod o’r tîm, Matt, gymaint yn is oedd ei lefelau straen wrth ei ddefnyddio. Mae'n rhywbeth i dimau cynllunio yn ôl yn y DU ei ystyried wrth ddylunio lleoedd cyhoeddus.
O orsaf reilffordd Shinjuku gwnaethom ffordd allan i Ganolfan Llu Awyr Yokohama yr Unol Daleithiau ychydig y tu allan i ddinas Tokyo. Fe wnaethon ni gwrdd â'r athrawes Katie Eriksen yn Ysgol Elfennol Yakota West. Mae Katie yn gweithio gyda myfyrwyr ddall ac â golwg rhannol yn yr ysgol, a threuliom y diwrnod yn dysgu popeth am rygbi VI i'r plant hyn a'u cyd-ddisgyblion. Fe wnaethom hefyd gynnal rhai sesiynau Holi ac Ateb am chwaraeon, colled golwg a bywyd yn gyffredinol. Dysgodd y staff a'r myfyrwyr gymaint mwy am rygbi nag yr oeddent yn ôl pob tebyg yn disgwyl ei wybod- nid yw'r gamp yn arbennig o adnabyddus gan Americanwyr! Gobeithio cawsant profiad cadarnhaol o chwaraeon VI y gallant fynd gyda nhw trwy gydol eu hoes.”