Blog Ansley: Pam rydyn ni’n galw am i bob gwybodaeth fod yn hygyrch
Ydych chi erioed wedi gorfod gofyn i ffrind, cymydog, gofalwr neu’ch plentyn ddarllen canlyniadau prawf ysbyty neu lythyr apwyntiad drostoch chi?
Neu wedi gofyn am i fanylion apwyntiad gael eu hanfon atoch yn y fformat sydd ei angen arnoch chi, dim ond iddo gyrraedd fel llythyr na allwch ei ddarllen wedi’r cwbl?
Rydyn ni’n clywed yn aml gan bobl ddall ac â golwg rhannol sy’n dweud wrthon ni eu bod nhw’n ei chael hi’n anodd neu’n amhosib darllen gwybodaeth iechyd hanfodol eu hunain. Rydw i hyd yn oed wedi siarad â rhywun oedd wedi gorfod gofyn i ddieithryn gwblhau ffurflen gwybodaeth feddygol drosti gan fod y gwasanaeth iechyd yn gwrthod darparu’r fformat oedd ei angen arni ac yn gwrthod ei helpu i gwblhau’r ffurflen.
Nid braint neu beth ‘braf i’w gael’ yw gwybodaeth hygyrch – mae’n hawl. Mae’n ofynnol i wasanaethau gofal iechyd ddarparu’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi yn y fformat sy’n gweddu orau i chi.
Rhaid i ddarparwyr iechyd a gwasanaethau cyhoeddus eraill fodloni eu dyletswyddau cyfreithiol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i wneud addasiadau rhesymol ar gyfer y rhai sydd ag anabledd, fel nad ydyn nhw’n cael eu rhoi mewn risg ddiangen ac fel eu bod nhw’n profi’r un annibyniaeth a phreifatrwydd â phawb arall.
Ac fe ddylai darparwyr Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru fod yn cadw at y safonau sydd wedi’u hamlinellu yn Safonau Cymru Gyfan ar gyfer Darparu Gwybodaeth Hygyrch i Bobl â Nam ar eu Synhwyrau a Chyfathrebu â Hwy 2013. Mae’n rhaid ystyried eu hanghenion cyfathrebu, a darparu gwybodaeth yn eu dewis fformat hygyrch – fel hawl a heb frwydr.
Rydyn ni eisiau sicrhau bod arferion gwybodaeth hygyrch yn cael eu gwreiddio yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a gwasanaethau cyhoeddus eraill fel mater o drefn.
Felly, fe hoffwn i ofyn i chi ymuno mewn e-weithred ar-lein hawdd. Does dim ond angen llenwi ychydig fanylion er mwyn anfon llythyr at eich Aelod lleol o’r Senedd, gan ofyn iddyn nhw ymrwymo i weithredu er mwyn sicrhau bod gwybodaeth hanfodol yn hygyrch i bawb.
Rydyn ni mor ddiolchgar i chi am eich cefnogaeth barhaus. Mae hyn wir yn cryfhau ein hymgyrchoedd, a fyddai dim o’n gwaith yn bosib heb eich cymorth chi.