Blog Ansley: Beth bynnag rydych chi’n ei wynebu, mae’r RNIB yma
Roedd 2020 yn flwyddyn anodd i bawb. Er bod gobaith ar y gorwel, nid dechrau 2021 dan gyfyngiadau symud yw'r ffordd yr oedd y rhan fwyaf o bobl eisiau croesawu’r Flwyddyn Newydd. Mae'n ddealladwy bod llawer ohonom ni’n teimlo'n isel ac angen ychydig o gefnogaeth emosiynol ychwanegol.
Mae'r sefyllfa'n hynod heriol i'r 121,000 o bobl ddall ac â golwg rhannol sy'n byw yng Nghymru. Mae llawer wedi wynebu gorbryder, tristwch a hyd yn oed ofn am yr heriau unigryw maen nhw wedi'u profi – fel problemau cadw pellter cymdeithasol, anhawster siopa heb dywysydd ac unigrwydd wrth golli cyswllt cyffyrddol gyda ffrindiau a theulu yn ystod y cyfyngiadau symud.
Rydyn ni wedi treulio'r 10 mis diwethaf yn siarad gyda phobl ddall ac â golwg rhannol ledled Cymru sy'n pryderu am yr hyn sydd i ddod yn ystod y misoedd nesaf. Mae ail don COVID, ynghyd â heriau parhaus o ran cadw pellter cymdeithasol a mwy o achosion o iselder ymhlith pobl sydd â cholled golwg, yn golygu bod ffocws ychwanegol ar les yn hanfodol ar hyn o bryd.
Dyma pam y lansiodd yr RNIB Sesiynau Iechyd Meddwl Brys ar gyfer pobl ddall ac â golwg rhannol lleol ym mis Hydref.
Mae'r sesiynau am ddim ac yn cynnig cyfle i bobl â cholled golwg siarad â chwnselydd am awr dros y ffôn am sut maen nhw’n teimlo ac unrhyw broblemau sydd ar eu meddwl. Does dim rhaid iddo ymwneud â'u golwg o gwbl.
Rydyn ni’n gwybod y gall y misoedd nesaf fod yn anodd i lawer, felly rydyn ni eisiau eich atgoffa chi bod yr RNIB yma i helpu. Os gallech chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod elwa o siarad â rhywun, ffoniwch ein Llinell Gymorth ar 0303 123 9999. Gallwn sefydlu sgwrs o fewn 36 awr ac mae posib defnyddio'r gwasanaeth gymaint o weithiau â sydd angen.
Does dim rhaid i unrhyw un sydd â cholled golwg ddioddef ar ei ben ei hun. Mae pobl ddall ac â golwg rhannol yn haeddu'r un disgwyliadau o ran lles y meddwl â phawb arall. Dyma pam y bydd RNIB Cymru yma bob amser.