Arolwg yr RNIB: Gallai’r cyfyngiadau symud gael effaith dymor hir ar bobl sydd â cholled golwg yng Nghymru
Mae ein harolwg diweddar ar les a phrofiadau personol yn ystod pandemig y coronafeirws wedi datgelu bod llawer o bobl ddall ac â golwg rhannol yn teimlo’n llai annibynnol ac yn fwy ynysig yn gymdeithasol nag erioed o’r blaen.
Cynhaliwyd yr arolwg cyntaf ledled y DU o sut mae pobl sydd â cholled golwg yn ymdopi yn ystod y cyfyngiadau symud rhwng Ebrill 28ain a Mai 11eg ac mae’n tynnu sylw at sut bydd y sefyllfa’n cael effaith ddifrifol ar bobl sydd â cholled golwg tymor hir.
- Mae dwy ran o dair (66%) o’r ymatebwyr yn teimlo’n llai annibynnol nawr o gymharu â chyn y cyfyngiadau symud.
- Nid oes gan un o bob pedwar (25%) rywun yn eu cartref a all eu tywys, gan gyfyngu ar eu gallu i adael y tŷ i ymarfer ac ar gyfer siwrneiau hanfodol.
- Dywedodd 80% o’r rhai a ymatebodd bod y ffordd maent yn siopa ar gyfer pethau hanfodol wedi newid ers y cyfyngiadau symud, gyda hanner cymaint o bobl ddall ac â golwg rhannol yn siopa ar eu pen eu hunain nawr.
- Mae 21% wedi gorfod dogni bwyd.
- Dywedodd 78% o’r ymatebwyr eu bod yn cael llai o gyswllt â’r ‘bobl bwysig i mi’ a phur anaml mae un o bob pump yn siarad gyda phobl dros y ffôn, ar alwadau fideo neu wyneb yn wyneb.
- Mae llawer o bobl sydd â cholled golwg yn methu cadw dwy fetr oddi wrth eraill. Mae’r rhai sydd wedi methu cadw eu pellter wedi rhoi gwybod am gael eu herio gan bobl yn mynd heibio, neu fod yn nerfus am dorri’r rheolau ac felly maent wedi colli eu hyder ac yn bryderus am adael y tŷ.
“Mae gen i ofn mynd mas”
Mae Sheila Kinch, 65 oed o Drelái yng Nghaerdydd, yn unigolyn â golwg rhannol ac mae wedi bod yn gwarchod ei hun gartref ar ei phen ei hun ers i’r cyfyngiadau symud ddechrau. Dywedodd Sheila: “Rydw i’n teimlo bod y cyfyngiadau symud wedi bod yn anodd iawn. Rydw i wedi bod yn dda am gadw at drefn ac, wrth lwc, rydw i wedi bod mewn cysylltiad â ffrindiau, teulu a fy ngrŵp i yn yr eglwys ar-lein. Fe fyddwn i ar goll heb y cyswllt hwnnw.
“Ond mae’n unig yr un fath. Rydw i’n colli’r cyswllt â phobl, hyd yn oed rhywbeth mor syml â rhoi cwtsh i rywun. Cyn y pandemig roeddwn i’n annibynnol iawn. Roeddwn i’n mynd mas bob dydd bron i siopa neu i weld ffrindiau. Mae ynysu cymdeithasol wedi gwneud i mi golli fy hyder yn fy annibyniaeth, ac mae hynny wedi bod yn anodd. Mae gen i ofn mynd mas oherwydd does gen i ddim syniad ydw i ddwy fetr oddi wrth bobl, a ’sa i’n gallu cyffwrdd pethau i symud hyd y lle a chadw fy malans.
“Rydw i’n teimlo mor ynysig a does gen i ddim syniad pa mor hir mae hyn yn mynd i bara ac mae hynny’n gwneud pethau’n waeth. Rydw i’n gobeithio y byddaf yn gallu teimlo’n annibynnol eto ond ’sa i’n siŵr.”
Ymgyrchu dros ystyriaeth
Wrth i Lywodraeth Cymru drafod sut gellid llacio’r cyfyngiadau symud, byddwn yn parhau i ymgyrchu er mwyn sicrhau bod unrhyw fesurau arfaethedig yn ystyried anghenion amrywiol pobl ddall ac â golwg rhannol yng Nghymru.
“’Sa i’n teimlo bod unrhyw un wedi meddwl am sut mae pobl â cholled golwg yn mynd i ymdopi yn y tymor hir, sy’n fy mecso i’n fawr,” ychwanegodd Sheila.
“Bydd parhau i gadw pellter cymdeithasol yn hunllef i bobl ddall ac â golwg rhannol. Ni fydd y gymuned yn gallu cwrdd am oes, sy’n cymryd llinell fywyd oddi ar lawer ohonon ni. Ac mae rhai newidiadau’n cael eu cyflwyno mor gyflym fel y gallan’ nhw gael effaith negyddol barhaus os na fydd ein hanghenion ni’n cael eu hystyried.”
Help ar gael
Dywedodd ein Cyfarwyddwr, Ansley: "Mae canlyniadau’r arolwg yn ddychryn ac yn dangos bod angen gwneud mwy i alluogi pobl ddall ac â golwg rhannol i gynnal eu hannibyniaeth yn ystod y cyfnod anodd yma.
“Ni ddylai’r camau sy’n cael eu cymryd i ‘ddatgloi ein cymdeithas’ eithrio pobl anabl ac ehangu’r bwlch anfantais yn fwy fyth. Er bod cadw pellter cymdeithasol yn fesur iechyd pwysig, rhaid i ni feddwl mwy am sut rydyn ni’n sicrhau nad yw pobl sydd â cholled golwg yn dod yn garcharorion y cyfyngiadau symud.
"Mae ein Llinell Gymorth ar gael i helpu a chefnogi pobl ddall ac â golwg rhannol a’u teuluoedd a’u gofalwyr, ar 0303 123 9999. Rydyn ni eisiau i bobl sydd â cholled golwg wybod bod help ar gael."