Sut gallwn ni helpu
Ar hyn o bryd, mae mwy na 106,000 o bobl yng Nghymru yn byw gyda cholled golwg.
Rydym yn darparu amrywiaeth o wasanaethau i ddiwallu anghenion pobl ddall ac â golwg rhannol yng Nghymru; o gymorth yn yr ysgol a'r coleg, i ddod o hyd i waith a byw yn annibynnol. Rydym yn gweithio i wneud pob diwrnod yn well i bobl sydd â cholled golwg.
Plant a theuluoedd
Mae ein Tîm Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yn gweithio yn uniongyrchol gyda phlant a phobl ifanc sy'n ddall ac sydd â golwg rhannol a’u teuluoedd ledled Cymru. Rydym hefyd yn cefnogi ac yn gweithio gyda gweithwyr proffesiynol eraill a sefydliadau.
Cefnogaeth mewn clinigau llygaid
Mae ein Swyddogion Cyswllt Gofal Llygaid yn gweithio mewn clinigau llygaid ledled Cymru. Maent yn darparu gwybodaeth a chefnogaeth emosiynol ac ymarferol i gleifion clinig llygaid sydd wedi cael diagnosis o golled golwg.
Help i fynd ar-lein
Rydym yn cynnal digwyddiadau am ddim ar draws Cymru i’ch helpu chi i ddatblygu’r sgiliau i ddefnyddio technoleg a’r rhyngrwyd yn hyderus.