Os nad ydych yn gyfarwydd gydag ysgrifennu gwybodaeth mewn fformat hygyrch, mae ein canllaw Syniadau Da yn cynnig cyngor doeth a syml. Mae'r canllawiau yn rhoi arferion gorau manylach ac os oes angen cyngor ac arweiniad pellach arnoch Cysylltwch â'n Gwasanaethau Busnes | RNIB
Syniadau da ar gyfer gwybodaeth brintiedig a chyfathrebu hygyrch: Canllaw syml i'ch rhoi ar ben ffordd (Fersiwn Saesneg)
Syniadau da ar gyfer gwybodaeth brintiedig a chyfathrebu hygyrch: Canllaw syml i'ch rhoi ar ben ffordd (Fersiwn Gymraeg)
Canllawiau print clir: Canllaw manwl gydag awgrymiadau hygyrchedd ar gyfer amrywiaeth o wybodaeth gan gynnwys dogfennau ysgrifenedig, dogfennau digidol, cyfryngau cymdeithasol a fformatau amgen. (Fersiwn Saesneg)
Canllawiau print clir (Fersiwn Gymraeg)
Lliw a chyferbyniad ar gyfer deunyddiau printiedig: Canllaw byr yn ymdrin â'r egwyddorion dylunio sylfaenol. Bydd y wybodaeth hon hefyd yn ddefnyddiol i unrhyw un sy'n dylunio cynhyrchion neu ystafelloedd mewnol a fydd yn cael eu defnyddio gan bobl ddall ac â golwg rhannol.
Lliw a chyferbyniad ar gyfer pobl gyda cholled golwg: Canllaw manwl yn ymdrin â'r egwyddorion sylfaenol a'r arferion gorau wrth ddefnyddio lliw a chyferbyniad mewn deunyddiau printiedig. Mae'r canllaw hefyd yn ddefnyddiol wrth ddylunio cynhyrchion neu wefannau a fydd yn cael eu defnyddio gan bobl gyda cholled golwg
Lliw a chyferbyniad ar gyfer pobl gyda cholled golwg: (Fersiwn Gymraeg). Lliw a chyferbyniad ar gyfer pobl gyda cholled golwg: Canllaw manwl yn ymdrin â'r egwyddorion sylfaenol a'r arferion gorau wrth ddefnyddio lliw a chyferbyniad mewn deunyddiau printiedig. Mae'r canllaw hefyd yn ddefnyddiol wrth ddylunio cynhyrchion neu wefannau a fydd yn cael eu defnyddio gan bobl gyda cholled golwg
Cymdeithas y DU ar gyfer fformatau Hygyrch::UKAAF yw'r gymdeithas ddiwydiant sy'n gosod safonau ac yn hyrwyddo arferion gorau ar gyfer dogfennau hygyrch. Mae ei gwefan yn cynnwys gwybodaeth am braille, print bras, sain, dogfennau electronig, dogfennau swyddfa a cherddoriaeth.