Appearance

Appearance

Shop RNIB Cyfrannwch nawr

Beth allaf wneud i dderbyn gwybodaeth iechyd a gofal hygyrch?

A woman sat while using a tablet computer.

Menyw yn eistedd tra’n defnyddio cyfrifiadur tabled.

Mae gwybodaeth hygyrch am iechyd a gofal yn galluogi pobl ddall ac â golwg rhannol i reoli eu hiechyd a'u gofal gyda'r un lefel o annibyniaeth a phreifatrwydd â phawb arall.

Ledled y DU rydym yn ymgyrchu am wybodaeth iechyd a gofal cymdeithasol hygyrch. Darganfyddwch beth rydyn ni'n ei wneud yn eich rhan chi o'r DU, darllenwch fwy am eich hawliau i wybodaeth hygyrch, a sut gallwch chi gefnogi'r ymgyrch.

Canllaw gwybodaeth iechyd a gofal hygyrch RNIB

Darganfyddwch sut i ofyn am wybodaeth hygyrch gan eich GIG neu ddarparwr gofal cymdeithasol, a sut i gwyno os na fyddwch yn ei chael.Mae gennym ganllawiau ar gael ar gyfer Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Gallwch ddarllen rhagor o wybodaeth am gwybodaeth iechyd a gofal hygyrch yn Lloegr drwy ddilyn y ddolen isod sydd ar gael yn Saesneg yn unig. https://www.rnib.org.uk/living-with-sight-loss/independent-living/accessible-nhs-and-social-care-information/

Gallwch ddarllen rhagor o wybodaeth am gwybodaeth iechyd a gofal hygyrch yng Ngogledd Iwerddon drwy ddilyn y ddolen isod sydd ar gael yn Saesneg yn unig. https://www.rnib.org.uk/living-with-sight-loss/independent-living/accessible-nhs-and-social-care-information/

Eich hawliau

Mae gan bawb yn y DU yr hawl i dderbyn gwybodaeth mewn fformat y gallant gael mynediad iddo a'i ddeall. Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn berthnasol os ydych yn byw yng Nghymru. Mae hyn yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr gwasanaethau, sy'n cynnwys gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, wneud addasiadau rhesymol. Mae hyn yn cynnwys darparu gwybodaeth mewn fformatau amgen.

Yng Nghymru cyflwynwyd ‘Safonau Cymru Gyfan ar gyfer Cyfathrebu a Gwybodaeth Hygyrch i Bobl â Nam ar y Synhwyrau’ yn 2013. Mae Safonau Cymru Gyfan yn ei gwneud yn ofynnol i bob cyfathrebu ysgrifenedig, fel llythyrau apwyntiad, gael eu darparu i bobl â nam ar y synhwyrau mewn fformatau hygyrch.

Sut i wneud cais am wybodaeth iechyd a gofal hygyrch 

Rydym wedi llunio taflen wybodaeth i’ch helpu i wneud cais am wybodaeth iechyd a gofal hygyrch, gan gynnwys camau y gallwch eu cymryd os na fyddwch yn ei chael.

Lawrlwythwch Ganllaw gwybodaeth iechyd a gofal hygyrch RNIB Cymru 

Er mwyn derbyn y canllaw yn eich fformat gofynnol, e-bostiwch helpline@rnib.org.uk neu siaradwch â’n Gwasanaeth Cyngor Colled Golwg yr RNIB ar 0303 123 9999

Rhannwch eich profiad

Os ydych chi'n ddall neu â golwg rhannol, gallwch ein helpu ni i siarad am bwysigrwydd gwybodaeth iechyd a gofal hygyrch drwy rannu eich profiad, boed dda neu ddrwg. Cwblhewch ein harolwg cyflym yn y Gymraeg neu yn Saesneg.

Fersiwn SaesnegRhannwch eich profiad o sicrhau gwybodaeth gan y GIG a gwybodaeth gofal cymdeithasol

Fersiwn Cymraeg

Ymgyrch Gwna Fe i Wneud Synnwyr RNIB Cymru 

Rydym wedi lansio ein hadroddiad ac ymgyrch ‘Gwna Fe i Wneud Synnwyr’. Mae’r gwaith hwn yn amlygu’r effaith mae gwybodaeth iechyd anhygyrch yn ei chael ar bobl ddall ac â golwg rhannol yng Nghymru ac yn cyflwyno nifer o argymhellion i Lywodraeth Cymru a GIG Cymru.

Gallwch ddarllen ein hadroddiad yn Saesneg yma

Gallwch ddarllen ein hadroddiad yn Gymraeg yma

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr ymgyrch, cysylltwch â Liz Williams, Rheolwr Polisi a Materion Cyhoeddus (liz.williams@rnib.org.uk)

Gallwch ddarllen rhagor o wybodaeth am gwybodaeth iechyd a gofal hygyrch yn Yr Alban drwy ddilyn y ddolen isod sydd ar gael yn Saesneg yn unig. https://www.rnib.org.uk/living-with-sight-loss/independent-living/accessible-nhs-and-social-care-information/

Rhannwch eich profiad

Os ydych chi'n ddall neu â golwg rhannol, gallwch ein helpu ni i siarad am bwysigrwydd gwybodaeth iechyd a gofal hygyrch drwy rannu eich profiad, boed dda neu ddrwg. Cwblhewch ein harolwg cyflym yn y Gymraeg neu yn Saesneg.

Cwblhewch ffurflen
An older man consults a tablet computer

dyn yn defnyddio ipad

Adnoddau ar gyfer gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol